Mae'r prosiect hwn wedi dod i ben.
Dy Bleidlais Di
Wedi'i ariannu gan Grant Ymgysylltu Democrataidd Llywodraeth Cymru, mae Dy Bleidlais Di yn brosiect peilot sy’n para blwyddyn i annog ymwybyddiaeth wleidyddol ymhlith pobl ag anableddau dysgu.
Nod y prosiect yw addysgu cyfranogwyr am ddemocratiaeth, etholiadau llywodraeth leol a chenedlaethol, a hybu cofrestru pleidleiswyr a'r nifer sy'n pleidleisio ymhlith pobl ag anableddau dysgu.
Ynglŷn ag Dy Bleidlais Di
Mae Dy Bleidlais Di yn annog ymwybyddiaeth a chyfranogiad gwleidyddol ymhlith y bobl ag anableddau dysgu y mae Innovate Trust yn eu cefnogi gyda chyfres o weithdai hwyliog ac addysgiadol, teithiau undydd, a gweithgareddau am lywodraeth, etholiadau, a'r broses bleidleisio.
Cynhelir sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein ar ein Ap Insight i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl. Caiff sesiynau eu cyd-gynhyrchu gyda'r bobl y mae Innovate Trust yn eu cefnogi.
Mae'r prosiect hefyd yn cefnogi cyfranogwyr i greu adnoddau a fideos pleidleisio Hawdd eu Deall i wneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosibl yn deall pwysigrwydd pleidleisio a sut i gofrestru.
Gweithgareddau’r prosiect
Bydd Dy Bleidlais Di yn cynnal 10 gweithdy yn ymdrin â'r pynciau canlynol:
- Beth yw democratiaeth?
- Beth mae'n ei olygu i bleidleisio?
- Pam ddylai fod ots gen i?
- Esbonio Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru
- Esbonio llywodraeth leol
- Cyflwyno'r prif bleidiau gwleidyddol
- Pwysigrwydd gwneud eich penderfyniadau eich hun
- Deall eich hawliau pleidleisio
- Cofrestru i bleidleisio
- Sut i bleidleisio
Drwy gydol y prosiect, byddwn yn trefnu sesiynau rhyngweithiol untro i ddod â'r pynciau hyn yn fyw. Bydd cyfranogwyr y prosiect yn cael cyfle i ymweld ag adeiladau llywodraeth pwysig, cwrdd â gwleidyddion lleol a chymryd rhan yn eu ffug etholiadau eu hunain, i enwi dim ond rhai!
Canfyddiadau allweddol
- 43 sesiwn wedi'u cyflwyno i 240 o gyfranogwyr
- Cyflwynwyd 19 o'r sesiynau hyn ar y Ap Insightap cymunedol diogel Innovate Trust
- Galluogodd sesiynau ar-lein i unigolion o bob cwr o'r Deyrnas Unedig (gan gynnwys Gogledd Cymru a'r Alban) ymuno â'r prosiect
- Cynhaliwyd 24 o weithdai a digwyddiadau eraill wyneb yn wyneb mewn cyfleusterau cymunedol hygyrch, yn y Senedd, ac mewn swyddfeydd cyngor ar draws Caerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf
- 101 o gyfranogwyr unigryw
- Fe wnaethon ni weithio gyda phartneriaid o gynghorau Caerdydd, Bro Morgannwg, a Rhondda Cynon Taf gan gynnwys:
- Swyddogion etholedig
- Canolfannau dydd
- Ysgol Arbennig Woodlands
- Pobl y Dyffryn yn Gyntaf
- Y Comisiwn Etholiadol
- Y Senedd.
Adborth ar y prosiect
Rwy'n falch iawn o'r gwahanol brosiectau rydw i wedi gweithio arnyn nhw gydag Innovate Trust ac rwy'n cael dangos fy ngwaith i deulu a ffrindiau pan fyddan nhw'n ymweld hefyd... Rwy'n mwynhau gweithio gyda'r tîm ac yn teimlo'n fwy cyfforddus drwy'r amser.
- Owen, cyfranogwr Insight ar Weithredu Hinsawdd
Rhagor o brosiectau Sgiliau a Lles
Arianwyr prosiect



