Mynd i'r cynnwys

Wales REACH Cymru

Mae REACH Cymru (Residents Engaging in Arts, Culture and Heritage) yn brosiect cyffrous dan arweiniad Y Brifysgol Agored sy'n defnyddio treftadaeth a chelfyddydau creadigol.

Mae'r prosiect yn cefnogi pobl mewn gwahanol rannau o Gymru i archwilio eu cysylltiad â hanesion eu hardaloedd a'u cymunedau lleol.

Open University Project Officer with Individual supported by Innovate Trust sitting at a table working on the Wales Reach project

Ynglŷn â phrosiect REACH Cymru project

Mae gan Gymru hanes cyfoethog a mannau gwych i gynnal gweithgareddau ac archwilio ei hanes. Mae prosiect REACH Cymru yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau a gweithio gyda nhw i lunio canlyniadau'r prosiect hwn.

Mae REACH Cymru yn brosiect treftadaeth a chelfyddydau creadigol sy'n cefnogi pobl mewn pum ardal yng Nghymru i archwilio cysylltiadau â hanesion eu hardaloedd lleol.  

Mae'r prosiect yn archwilio pa fathau o dreftadaeth sy'n bwysig i'w gymunedau a'i gyfranogwyr. Mae'n eu helpu i ddefnyddio'r dreftadaeth honno fel ysbrydoliaeth ar gyfer celfyddydau a chreadigrwydd.  

Mae REACH Cymru yn dangos ochr o hanes Cymru nad yw pobl fel arfer yn ei gweld. 

Innovate Trust a REACH Cymru

Mae cyfanswm o 13 sefydliad yn rhan o brosiect REACH Cymru y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru.  

Rôl Innovate Trust yw arwain ar waith REACH yn Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, a Chaerdydd.  Our aim is to make Ein nod yw gwneud treftadaeth yn fwy hygyrch i'r gymuned anabledd dysgu a niwroamrywiol.  

Byddwn yn helpu ein cymunedau i ddysgu mwy am eu treftadaeth Gymreig mewn ffordd hygyrch, gan annog adborth a chyfeiriad prosiect.

A group of individuals with learning disabilities and their support networks sat around a long U shaped table in a room. They are listening to an person doing presentation

Adborth REACH Cymru

Owen in Cardiff Bay holding a photo of the same place in Cardiff Bay in history

Mae'n ddiddorol iawn cymharu lluniau'r gorffennol â sut mae'n edrych nawr.

Partneriaid y prosiect

Amgueddfa Cymru logo
First Choice Housing association logo
Linc Cymru logo
GIG Public Health Wales logo
Taff Housing Association logo

Arianwyr prosiect

Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.

Mae REACH Cymru yn bosibl diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu archwilio straeon a hanesion cymunedau Cymru drwy'r celfyddydau creadigol. 

The National Lottery Heritage Fund Acknowledgement Stamp

Newyddion diweddaraf