Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.
Saesneg
Cymraeg
Defnyddiwyd y Colomendy hwn gan deulu Plymouth a arferai gadw colomennod i gael eu cig a'u hwyau.
Wyddoch chi fod colomennod yn hynod ddeallus?
Maen nhw’n gallu adnabod eu hunain mewn drych a hyd yn oed adnabod rhai llythrennau’r wyddor!
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, stopiodd pobl fwyta colomennod gan i bobl ddechrau eu defnyddio i gario negeseuon yn hytrach.
Gelwir y colomennod hyn yn golomennod negesi neu'n golomennod dychwel.
Fe'u defnyddiwyd gan y ddwy ochr yn ystod y rhyfel.
Defnyddiwyd colomennod yn bennaf yn y ffosydd pan oedd radios yn newydd ac yn annibynadwy.
Roedd colomennod yn dda iawn am gyfleu negeseuon, ac yn llwyddo 95% o’r amser yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd rhai colomennod fedalau, hyd yn oed.
Roedd colomennod yn dal i gael eu defnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd i hedfan ar draws y sianel.
Ar ôl y rhyfeloedd, dechreuodd pobl gadw colomennod er mwyn eu rasio.
Mae pencampwyr colomennod rasio yn hynod werthfawr ac maen nhw’n gallu hedfan hyd at 110 milltir yr awr!
Mae rhai pobl yn Ne Cymru yn dal i gadw colomennod rasio hyd heddiw.
Y dyddiau hyn mae colomennod yn cael eu gweld mewn ffordd negyddol yn bennaf.
Mae yna niferoedd mawr ohonyn nhw mewn dinasoedd ac mae pobl yn meddwl eu bod nhw'n fudr.
Mae'n ddiddorol bod colomennod gwyn yn cael eu gweld fel symbol o heddwch ond mae pobl yn meddwl am golomennod glas cyffredin fel "llygod mawr sy'n hedfan"!
Beth yw eich barn chi?
Ydych chi wedi gweld colomennod ar eich taith gerdded heddiw?
Croeso i Lwybr Amser Rhyfel yn Sain Ffagan!
Mae Sain Ffagan yn amgueddfa hanes byw lle gallwch archwilio'r gorffennol a dysgu am sut roedd pobl yn byw...
Y Capel
Roedd gan bob tref a phentref yng Nghymru o leiaf un capel. Roedd y rhain yn ganolfannau cymunedol pwysig yn y gorffennol...
Hugh Pettigrew
Ym 1897, penododd yr Iarll ddyn o'r enw Hugh Pettigrew yn Brif Arddwr yng Nghastell Sain Ffagan...
Y Colomendy
Defnyddiwyd y Colomendy hwn gan y teulu Plymouth a oedd yn arfer cadw colomennod ar gyfer eu cig a'u wyau...
Yr Ardd Rosod
Cynlluniodd y prif arddwr, Hugh Pettrigrew, yr ardd rosod ym 1898. Llenwodd yr ardd gyda mwy na 100 o fathau o rosod...
Gerddi'r Castell
Byddai'r gerddi hyn wedi edrych ac yn teimlo'n wahanol iawn yn gynnar yn y 1900au pan gawsant eu trawsnewid ar gyfer yr ymdrech ryfel...
Castell Sain Ffagan
Chwaraeodd y castell ran bwysig yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe'i defnyddiwyd fel maes hyfforddi i'r Groes Goch ym 1910...
Arianwyr prosiect
Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.
Gwnaed Yr Ardd Ddirgel yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i archwilio hanes cyfoethog bwthyn Ysgubor Fawr a meithrin yr ardd.




