Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.
Saesneg
Cymraeg
Adeiladwyd y Capel Undodaidd hwn yn Sir Gaerfyrddin yn y 18fed ganrif ac fe gafodd ei symud i Sain Ffagan.
Roedd gan bob tref a phentref yng Nghymru o leiaf un capel. Roedd y rhain yn ganolfannau cymunedol pwysig yn y gorffennol.
Roedd crefydd yn rhan fawr o fywyd cymunedol yn y 1900au cynnar, a llawer o bobl yn mynychu'r eglwys bob Sul.
Eglwys Santes Fair yw enw'r eglwys ym mhentref Sain Ffagan, ac mae'n debyg mai dyma lle byddai’r Teulu Plymouth yn mynd.
Roedd crefydd yn dal i chwarae rhan bwysig ym mywyd Cymru pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd yr eglwys yn cynnig cysur ac yn helpu cymunedau i ymdopi â cholled.
Byddai milwyr hefyd yn defnyddio'r eglwys i briodi cyn gadael i fynd i’r rhyfel, neu pan roedden nhw’n dychwelyd ar seibiant.
Roedd llawer o eglwysi a chapeli hefyd yn helpu i recriwtio dynion ifanc i fod yn filwyr.
Roedden nhw'n arddangos posteri propaganda, a doedd y rheiny ddim yn dangos realiti rhyfel.
Roedden nhw’n ei ddisgrifio fel “rhyfel cyfiawn” ac yn dweud y byddai drosodd mewn ychydig fisoedd!
Yn 2014, daeth arweinwyr eglwysi Cymru ynghyd i ymddiheuro am y rôl a chwaraeodd yr Eglwys wrth recriwtio milwyr.
Credir bod yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi arwain at lai o bobl yn mynd i'r eglwys yng Nghymru.
Y dyddiau hyn, dim ond ar gyfer dathliadau penodol fel priodasau a'r Nadolig y mae llawer o bobl yn mynd i'r eglwys.
Mae yna lawer o eglwysi, capeli ac eglwysi cadeiriol hardd i ymweld â nhw ledled Cymru.
Fe allwch chi fwynhau'r gwaith celf a'r hanes p'un a ydych chi'n grefyddol ai peidio!
Oes gennych chi hoff eglwys neu gapel?
Croeso i Lwybr Amser Rhyfel yn Sain Ffagan!
Mae Sain Ffagan yn amgueddfa hanes byw lle gallwch archwilio'r gorffennol a dysgu am sut roedd pobl yn byw...
Y Capel
Roedd gan bob tref a phentref yng Nghymru o leiaf un capel. Roedd y rhain yn ganolfannau cymunedol pwysig yn y gorffennol...
Hugh Pettigrew
Ym 1897, penododd yr Iarll ddyn o'r enw Hugh Pettigrew yn Brif Arddwr yng Nghastell Sain Ffagan...
Y Colomendy
Defnyddiwyd y Colomendy hwn gan y teulu Plymouth a oedd yn arfer cadw colomennod ar gyfer eu cig a'u wyau...
Yr Ardd Rosod
Cynlluniodd y prif arddwr, Hugh Pettrigrew, yr ardd rosod ym 1898. Llenwodd yr ardd gyda mwy na 100 o fathau o rosod...
Gerddi'r Castell
Byddai'r gerddi hyn wedi edrych ac yn teimlo'n wahanol iawn yn gynnar yn y 1900au pan gawsant eu trawsnewid ar gyfer yr ymdrech ryfel...
Castell Sain Ffagan
Chwaraeodd y castell ran bwysig yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe'i defnyddiwyd fel maes hyfforddi i'r Groes Goch ym 1910...
Arianwyr prosiect
Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.
Gwnaed Yr Ardd Ddirgel yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i archwilio hanes cyfoethog bwthyn Ysgubor Fawr a meithrin yr ardd.


