Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.
Saesneg
Cymraeg
Fe wnaeth Castell Sain Ffagan chwarae rhan bwysig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd Iarll Plymouth a'i wraig ill dau yn weithgar iawn yn yr ymdrech ryfel.
Fe wnaethon nhw gynnig y castell fel maes hyfforddi i ddidoliad Cymorth Gwirfoddol y Groes Goch yn 1910.
Daeth cannoedd o wirfoddolwyr i ddysgu sgiliau cymorth cyntaf i achub bywydau.
Roedd hyn i'w paratoi rhag ofn y byddai rhyfel yn dechrau.
Yn 1916, fe wnaethon nhw roi caniatâd i neuadd wledda'r castell gael ei defnyddio fel ysbyty ategol.
Roedd gan yr ysbyty 70 o welyau. Roedd llawer o'r nyrsys hefyd yn gweithio fel morynion tŷ i deulu Plymouth!
Prynodd y teulu Plymouth gramoffon a phiano i ddiddanu'r milwyr. Roedd y gerddi’n helpu milwyr wedi eu hanafu i orffwys ac adfer yn ystod eu harhosiad.
Roedd y milwyr hefyd yn gwneud gemwaith ac yn gwerthu eu gwaith i godi arian i garcharorion rhyfel.
Bu farw eu mab ieuengaf Archer mewn brwydr ar 26 Awst 1914. Efallai bod hyn yn egluro pam roedden nhw eisiau helpu milwyr eraill.
Cafodd yr adeilad hwn ei droi’n rhywbeth defnyddiol i helpu’r ymdrech ryfel.
Mae'n ein hatgoffa o'r pandemig a sut cafodd Stadiwm Principality ei droi’n ysbyty, a Stadiwm Dinas Caerdydd yn ganolfan frechu.
Ydych chi'n gwybod am unrhyw adeiladau eraill a gafodd eu trawsnewid yn rhywbeth gwahanol mewn cyfnod o angen?
Croeso i Lwybr Amser Rhyfel yn Sain Ffagan!
Mae Sain Ffagan yn amgueddfa hanes byw lle gallwch archwilio'r gorffennol a dysgu am sut roedd pobl yn byw...
Y Capel
Roedd gan bob tref a phentref yng Nghymru o leiaf un capel. Roedd y rhain yn ganolfannau cymunedol pwysig yn y gorffennol...
Hugh Pettigrew
Ym 1897, penododd yr Iarll ddyn o'r enw Hugh Pettigrew yn Brif Arddwr yng Nghastell Sain Ffagan...
Y Colomendy
Defnyddiwyd y Colomendy hwn gan y teulu Plymouth a oedd yn arfer cadw colomennod ar gyfer eu cig a'u wyau...
Yr Ardd Rosod
Cynlluniodd y prif arddwr, Hugh Pettrigrew, yr ardd rosod ym 1898. Llenwodd yr ardd gyda mwy na 100 o fathau o rosod...
Gerddi'r Castell
Byddai'r gerddi hyn wedi edrych ac yn teimlo'n wahanol iawn yn gynnar yn y 1900au pan gawsant eu trawsnewid ar gyfer yr ymdrech ryfel...
Castell Sain Ffagan
Chwaraeodd y castell ran bwysig yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe'i defnyddiwyd fel maes hyfforddi i'r Groes Goch ym 1910...
Arianwyr prosiect
Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.
Gwnaed Yr Ardd Ddirgel yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i archwilio hanes cyfoethog bwthyn Ysgubor Fawr a meithrin yr ardd.










