Mynd i'r cynnwys

Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.

Saesneg

Cymraeg

Croeso i'r Ardd Rosod.

Yn ystod diwedd y gwanwyn a'r haf, mae'r ardd hon yn llawn lliw ac arogl.

Cynlluniodd y prif arddwr, Hugh Pettigrew, yr ardd rosod yn 1898.

Llenwodd yr ardd â mwy na 100 math o rosod a chreu camlas yn llawn pysgod addurniadol.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwasanaethodd Pettigrew fel Swyddog yn y Gatrawd Ceffylau Cymreig yn Ffrainc. Yn 1921 fe wnaeth ymddeol o wasanaeth milwrol gyda statws Capten anrhydeddus.

Yn anffodus, ni chafodd yr ardd rosod ei gofalu amdani yn ystod y rhyfel a chafodd y gamlas ei llenwi.

Daeth Pettigrew yn ôl i Sain Ffagan ar ôl y rhyfel.

Pan wnaeth o ymddeol, aeth i fyw yn Ffrainc gyda'i wraig.

Pan ymunodd yr Eidal â'r Ail Ryfel Byd, bu’n rhaid i Pettigrew a’i wraig wneud taith beryglus yn ôl o Ffrainc i’r Deyrnas Unedig ar gwch gorlawn gyda ffoaduriaid Prydeinig eraill.

Dychwelodd Pettigrew i Ffrainc ar ôl y rhyfel, ac yno a fuodd ef tan ei farwolaeth.

Ar un adeg, bu Pettigrew yn cael hyfforddiant yng ngerddi byd-enwog Kew.

Wedi ei farwolaeth, ysgrifennodd staff Kew am fywyd Pettigrew.

Fe wnaethon nhw ddweud: ‘Roedd yn eithriadol o fedrus mewn garddio a choedwigaeth ac yn un da am drefnu dynion.'

Mae'r ardd rydych chi'n ei gweld o'ch blaen heddiw wedi cael ei hailadeiladu o ddyluniad gwreiddiol Pettigrew dros 100 mlynedd yn ôl, am anhygoel!

Croeso i Lwybr Amser Rhyfel yn Sain Ffagan!

Mae Sain Ffagan yn amgueddfa hanes byw lle gallwch archwilio'r gorffennol a dysgu am sut roedd pobl yn byw...

Y Capel

Roedd gan bob tref a phentref yng Nghymru o leiaf un capel. Roedd y rhain yn ganolfannau cymunedol pwysig yn y gorffennol...

Hugh Pettigrew

Ym 1897, penododd yr Iarll ddyn o'r enw Hugh Pettigrew yn Brif Arddwr yng Nghastell Sain Ffagan...

Y Colomendy

Defnyddiwyd y Colomendy hwn gan y teulu Plymouth a oedd yn arfer cadw colomennod ar gyfer eu cig a'u wyau...

Yr Ardd Rosod

Cynlluniodd y prif arddwr, Hugh Pettrigrew, yr ardd rosod ym 1898. Llenwodd yr ardd gyda mwy na 100 o fathau o rosod...

Gerddi'r Castell

Byddai'r gerddi hyn wedi edrych ac yn teimlo'n wahanol iawn yn gynnar yn y 1900au pan gawsant eu trawsnewid ar gyfer yr ymdrech ryfel...

Castell Sain Ffagan

Chwaraeodd y castell ran bwysig yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe'i defnyddiwyd fel maes hyfforddi i'r Groes Goch ym 1910...

Arianwyr prosiect

Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.

Gwnaed Yr Ardd Ddirgel yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i archwilio hanes cyfoethog bwthyn Ysgubor Fawr a meithrin yr ardd.

The National Lottery Heritage Fund Acknowledgement Stamp