Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.
Saesneg
Cymraeg
Stopiwch yma am eiliad i edrych yn agosach ar y goeden Pos Mwnci.
Mae ei dail yn bigog ac fel lledr. Conau blewog ar flaenau ei changhennau yw ei ffrwythau.
Mae coed Pos Mwnci wedi bod o gwmpas ers 200 miliwn o flynyddoedd, pan roedd deinosoriaid yn crwydro'r ddaear.
Ond nid yw'r goeden hon yn dod o’r Deyrnas Unedig.
Mae'n dod o Dde America a chafodd ei chludo drosodd gan y Fictoriaid.
Felly, beth mae coeden Pos Mwnci egsotig yn ei wneud yn Sain Ffagan?
Wel, byddai wedi cael ei dewis gan y garddwyr ar Ystâd Plymouth.
Yn 1897, fe wnaeth yr Iarll benodi dyn o'r enw Hugh Pettigrew yn Brif Arddwr yng Nghastell Sain Ffagan.
Ef oedd yn gyfrifol am yr Ardd Eidalaidd, yr Ardd Rosod a’r Ardd Teim.
Nid oedd Pettigrew yn ddieithr i'r Iarll. Fe wnaethon nhw dyfu i fyny gyda'i gilydd ac roedden nhw'n ffrindiau bore oes.
Er mai gwas ar yr Ystâd oedd Pettigrew, roedd yn cael ei ystyried yn aelod o aelwyd y Plymouths.
Roedd teulu Pettigrew hefyd yn rhan o ddylunio Parciau Caerdydd.
Roedden nhw'n adnabyddus iawn
Heddiw, mae hyd yn oed cadwyn fecws leol ledled Caerdydd wedi'i henwi ar eu hôl!
Byddwn yn dysgu mwy am Hugh Pettigrew wrth i ni grwydro’r gerddi o amgylch y castell.
Ond am y tro, dyma ffaith ddifyr: Fe gafodd Hugh Pettigrew ei ddal unwaith yn goryrru yn ei gar newydd, gan fynd ar gyflymder brawychus o 20 milltir yr awr! Gwrandewch ar y clip sain isod i gael gwybod mwy.
Cyn i chi fynd yn eich blaen, dylech chi wybod bod hen chwedl yn dweud y gall siarad wrth fynd heibio coeden Pos Mwnci wneud i chi dyfu cynffon mwnci!
Gwell bod yn ofalus!
Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.
Andrew Pettigrew ar docyn goryrru Hugh Pettigrew – 1979.
Croeso i Lwybr Amser Rhyfel yn Sain Ffagan!
Mae Sain Ffagan yn amgueddfa hanes byw lle gallwch archwilio'r gorffennol a dysgu am sut roedd pobl yn byw...
Y Capel
Roedd gan bob tref a phentref yng Nghymru o leiaf un capel. Roedd y rhain yn ganolfannau cymunedol pwysig yn y gorffennol...
Hugh Pettigrew
Ym 1897, penododd yr Iarll ddyn o'r enw Hugh Pettigrew yn Brif Arddwr yng Nghastell Sain Ffagan...
Y Colomendy
Defnyddiwyd y Colomendy hwn gan y teulu Plymouth a oedd yn arfer cadw colomennod ar gyfer eu cig a'u wyau...
Yr Ardd Rosod
Cynlluniodd y prif arddwr, Hugh Pettrigrew, yr ardd rosod ym 1898. Llenwodd yr ardd gyda mwy na 100 o fathau o rosod...
Gerddi'r Castell
Byddai'r gerddi hyn wedi edrych ac yn teimlo'n wahanol iawn yn gynnar yn y 1900au pan gawsant eu trawsnewid ar gyfer yr ymdrech ryfel...
Castell Sain Ffagan
Chwaraeodd y castell ran bwysig yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe'i defnyddiwyd fel maes hyfforddi i'r Groes Goch ym 1910...
Arianwyr prosiect
Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.
Gwnaed Yr Ardd Ddirgel yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i archwilio hanes cyfoethog bwthyn Ysgubor Fawr a meithrin yr ardd.