Mynd i'r cynnwys

Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.

Saesneg

Cymraeg

Pan fyddwch chi'n cerdded trwy Erddi'r Castell heddiw, efallai y byddwch chi'n teimlo'n dawel ac yn hamddenol.

Byddai'r gerddi hyn wedi edrych a theimlo'n wahanol iawn ar ddechrau'r 1900au pan gawsant eu trawsnewid ar gyfer yr ymdrech ryfel.

Fe newidiodd bywydau merched yn fawr oherwydd bod dynion i ffwrdd yn y rhyfel.

Fe wnaeth Byddin Tir y Merched recriwtio merched i wneud gwaith ffermio.

Roedden nhw’n cael eu galw yn 'Merched y Tir' ac roedden nhw’n cymryd lle ffermwyr a garddwyr gwrywaidd a oedd wedi mynd i fod yn filwyr.

Roedd prinder bwyd yn bryder mawr yn ystod y rhyfel.

Ni allai Prydain gludo bwyd i mewn o wledydd eraill oherwydd ymosodiadau'r Almaen.

Anfonwyd rhai o Ferched y Tir i fyw yng Nghastell Sain Ffagan lle’r oedden nhw’n tyfu bwyd. Digwyddodd hyn yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.

Yn y 1940au, plannwyd cannoedd o letys ar y gwely Ffigys ar ben y terasau.

Roedd gwinwydd a wal eirin gwlanog yn rhoi ffrwythau ffres.

Cafodd gerddi addurniadol eu gadael i dyfu’n wyllt.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y gerddi hyn yn cael eu galw’n Erddi Rhyfel neu Gerddi Bwyd ar gyfer Amddiffyn.

Lansiwyd y slogan 'Dig for Victory' i annog pobl i dyfu mwy o fwyd.

Yn Sain Ffagan, aeth Merched y Tir i weithio ar fferm Llwyn-Yr-Eos hefyd a gwneud gwaith llaw trwm.

Croeso i Lwybr Amser Rhyfel yn Sain Ffagan!

Mae Sain Ffagan yn amgueddfa hanes byw lle gallwch archwilio'r gorffennol a dysgu am sut roedd pobl yn byw...

Y Capel

Roedd gan bob tref a phentref yng Nghymru o leiaf un capel. Roedd y rhain yn ganolfannau cymunedol pwysig yn y gorffennol...

Hugh Pettigrew

Ym 1897, penododd yr Iarll ddyn o'r enw Hugh Pettigrew yn Brif Arddwr yng Nghastell Sain Ffagan...

Y Colomendy

Defnyddiwyd y Colomendy hwn gan y teulu Plymouth a oedd yn arfer cadw colomennod ar gyfer eu cig a'u wyau...

Yr Ardd Rosod

Cynlluniodd y prif arddwr, Hugh Pettrigrew, yr ardd rosod ym 1898. Llenwodd yr ardd gyda mwy na 100 o fathau o rosod...

Gerddi'r Castell

Byddai'r gerddi hyn wedi edrych ac yn teimlo'n wahanol iawn yn gynnar yn y 1900au pan gawsant eu trawsnewid ar gyfer yr ymdrech ryfel...

Castell Sain Ffagan

Chwaraeodd y castell ran bwysig yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe'i defnyddiwyd fel maes hyfforddi i'r Groes Goch ym 1910...

Arianwyr prosiect

Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.

Gwnaed Yr Ardd Ddirgel yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i archwilio hanes cyfoethog bwthyn Ysgubor Fawr a meithrin yr ardd.

The National Lottery Heritage Fund Acknowledgement Stamp