Cwrdd â'r chrewyr o'n llwybrau!
Louis, Caerdydd
Fe wnes i ymuno â phrosiect yr Ardd Ddirgel oherwydd fy mod i'n hoffi straeon o'r gorffennol a ffeithiau o gyfnodau amser gwahanol. Dw i'n hoffi dysgu pethau newydd fel sut roedd pobl yn byw yn y cyfnod hwnnw. Mae'n grŵp da iawn, dw i'n mwynhau fy hun. Mae'n bwysig dysgu am hanes, am fywyd yn y gorffennol a sut mae pethau wedi newid.
Fy hoff gyfnodau hanesyddol yw'r Oesoedd Canol, brwydrau'r gorffennol a brenhinoedd a oedd yn teyrnasu dros Ewrop. Dw i’n mwynhau clywed ffeithiau am hyn a sut mae pethau a ddigwyddodd yn y gorffennol yn effeithio ar y presennol.
Fy hoff leoedd yn yr amgueddfa yw tŷ'r Masnachwr Tuduraidd, y tŷ crwn o Oes yr Haearn a Chastell Sain Ffagan. Maen nhw'n lleoedd gwych iawn a dw i’n mwynhau mynd o’u cwmpas.
Ryan, Caerdydd
Fe wnes i ymuno â phrosiect yr Ardd Ddirgel fel rhywbeth i'w wneud. Gwneud rhywbeth newydd oedd y peth gorau am y prosiect hwn i mi. Mae'n bwysig dysgu am hanes er mwyn dysgu am y gorffennol a sut beth oedd e.
Fy hoff gyfnod mewn hanes yw pan oedd deinosoriaid yn byw – oherwydd mae deinosoriaid yn cŵl!
Fy hoff le yn yr amgueddfa yw gerddi'r castell.
Aaron, Maerdy
Fi yw'r Swyddog Prosiect Cynorthwyol ar Brosiect yr Ardd Ddirgel. Fe wnes i gais am y swydd oherwydd fy mod i'n hoffi'r awyr agored a hanes.
Fy hoff gyfnod hanes yw Tsieina Hynafol, a hynny oherwydd gêm dw i'n ei chwarae.
Y llyn yw fy hoff fan yn Amgueddfa Sain Ffagan oherwydd dw i'n hoffi dŵr.
Y peth gorau am y prosiect hwn i mi yw gweithio i Innovate Trust. Dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig dysgu am hanes a'n treftadaeth achos y dylen ni ddysgu edrych yn ôl.
Brian, Caerdydd
Fe wnes i ymuno â phrosiect yr Ardd Ddirgel oherwydd fy mod i'n hoffi hanes a'r celfyddydau.
Fy hoff leoedd yn Sain Ffagan yw'r Ardd Ddirgel a'r llyn, maen nhw'n brydferth.
Fy hoff bethau i'w gwneud ar y prosiect hwn yw darlunio a phaentio.
George, Caerdydd
Ymunais â phrosiect yr Ardd Ddirgel oherwydd fy mod wedi gwneud pethau eraill gydag Innovate Trust ac mae gen i ddiddordeb mewn hanes.
Mae gen i ddiddordeb mewn hanes o bob math!
Yr Ardd Ddirgel yw fy hoff le yn yr amgueddfa achos mae’n heddychlon yma ac mae’n rhywbeth gwahanol i'w wneud.
Jo, y Barri
Fe wnes i ymuno â phrosiect Yr Ardd Ddirgel i arddio yn y lle cyntaf.
Mae gen i ddiddordeb yn y cyfnodau Triasig, Jwrasig a Chretasaidd oherwydd y deinosoriaid.
Fy hoff le yn Sain Ffagan yw'r llyn oherwydd ei fod yn heddychlon.
Dw i wedi mwynhau popeth dw i wedi'i wneud ar y prosiect hwn.
Dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig dysgu am hanes er mwyn i ni gael gwybod mwy.
Kyle, Caerdydd
Fe wnes i ymuno â phrosiect yr Ardd Ddirgel oherwydd fy mod i'n hoffi hanes. Dw i wedi mwynhau dysgu am fywydau pobl oedd yn byw yn Sain Ffagan yn arbennig.
Fy hoff gyfnod mewn hanes yw'r Ymerodraeth Rufeinig – roedden nhw'n bobl cŵl, a phwerus.
Y talwrn yw fy hoff le yn amgueddfa Sain Ffagan, mae'n lle braf i ymweld ag ef ac mae'n dangos sut oedd bywyd.
Sunflower, Pontypridd
Fe wnes i ymuno â phrosiect yr Ardd Ddirgel oherwydd fy mod i wrth fy modd yno [yr ardd] ac yn Sain Ffagan. Pan dw i yn yr ardd mae'n fy helpu gyda fy lles a fy iechyd meddwl, a dyna pam mae hi mor bwysig i mi fod y prosiectau hyn yn parhau.
Dw i'n hoffi dysgu am sut roedd pobl yn byw ac yn ymdopi yn y gorffennol.
Fy hoff leoedd yn Sain Ffagan yw'r fferm a'r tai teras oherwydd maen nhw’n cofnodi gwahanol gyfnodau mewn amser ac yn dangos beth oedd gan bobl a beth roedden nhw’n ei wneud.
Y peth gorau rydw i wedi'i wneud ar y prosiect yw dysgu am y Teulu Roper a oedd yn byw yn Ysgubor Fawr. Mae'n bwysig i bobl wybod pa mor galed oedd bywyd yn ôl yn y dyddiau hynny.
Heddiw mae gan bobl ormod, mae angen iddyn nhw wybod y ffordd roedden ni'n arfer byw.
Arianwyr prosiect
Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.
Gwnaed Yr Ardd Ddirgel yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i archwilio hanes cyfoethog bwthyn Ysgubor Fawr a meithrin yr ardd.