Mynd i'r cynnwys

Sefydliad y Gweithwyr Oakdale

Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.

Dyma Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, a elwir yn aml yn ‘Stiwt’.

Roedd Sefydliadau Gweithwyr yn rhan fawr o gymunedau glofaol Cymru rhwng yr 1880au a'r 1930au.

Roedden nhw’n cael eu talu amdanynt gydag arian o gyflogau glowyr a help gan berchnogion pyllau glo.

Roedd Sefydliadau Gweithwyr yn rhoi cyfle i weithwyr a'u teuluoedd gymryd rhan mewn dysgu, diwylliant ac adloniant.

Roedd y Stiwt yn rhan fawr o fywydau cymdeithasol pobl, rhywle roedden nhw’n gallu mynd i ddawnsio a gwylio ffilmiau.

Roedd y llyfrgell a'r ystafell ddarllen yn cyflwyno llyfrau i bobl.

Dim ots faint oed ydyn ni, mae llyfrau yn ein helpu i ddysgu am y byd o'n cwmpas a'i ddeall. I deuluoedd tlotach, gallai darllen eu helpu i gael dyfodol gwell.

Byddai’r Sefydliad yn helpu pobl yn ystod cyfnodau anodd. Yn ystod y Dirwasgiad, fe wnaethon nhw roi arian i deuluoedd oedd yn cael trafferthion.

Felly beth ddigwyddodd i Sefydliadau Gweithwyr ledled Cymru?

Dechreuodd y pyllau glo gau yn y 1960au a chollodd y glowyr eu swyddi. Roedd llai a llai o arian yn cael ei roi i'r Sefydliadau. Caeodd Oakdale yn y diwedd yn 1987.

Nid cymuned lofaol oedd Sain Ffagan.

Ond roedd Clybiau Gweithwyr mewn trefi cyfagos, gan gynnwys Clwb Rhyddfrydol Canton a agorodd yn 1900 ac sydd yno o hyd heddiw.

Yn hytrach, cyfleoedd cymdeithasol eraill oedd yna i bentrefwyr Sain Ffagan, fel y nifer o glybiau chwaraeon roedd yr Iarll yn eu cefnogi.

Cymerwch eiliad i ddychmygu'r adeilad o'ch blaen yn y 1920au. Yn llawn bywyd gyda phobl yn mynd a dod.

Allwch chi feddwl am le neu adeilad sy'n bwysig i'ch cymuned chi?

Croeso i'r llwybr Bywyd Bob Dydd!

Mae Sain Ffagan yn amgueddfa hanes byw lle gallwch archwilio'r gorffennol a dysgu am sut roedd pobl yn byw...

Gaeafau yn Sain Ffagan

Bob Nadolig byddai'r Iarll Plymouth yn rhoi cig i'w denantiaid ac yn cynnal parti i’r holl blant ysgol...

Popty Derwen

Cafodd ei adeiladu yn Aberystwyth yn 1900 a'i symud i'r amgueddfa yn 1982...

Timau chwaraeon lleol

Mae chwaraeon yn rhan fawr o fywyd yng Nghymru. Mae'n rhan o hunaniaeth genedlaethol ac yn ffynhonnell balchder cenedlaethol...

Sefydliad y Gweithwyr Oakdale

Roedd Sefydliadau Gweithwyr yn rhan fawr o gymunedau glofaol Cymru rhwng yr 1880au a'r 1930au...

Goedwig Fawr Plymouth

Mae gan y coetir lled-hynafol hwn ei enw oherwydd ei fod yn arfer perthyn i Iarll Plymouth...

Bywyd yn Llwyn-yr-Eos

Adeiladwyd y ffermdy ym 1820. Ni chafodd ei symud yma fel adeiladau eraill yn yr amgueddfa; fe'i hadeiladwyd lle mae'n sefyll...

Arianwyr prosiect

Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.

Gwnaed Yr Ardd Ddirgel yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i archwilio hanes cyfoethog bwthyn Ysgubor Fawr a meithrin yr ardd.

The National Lottery Heritage Fund Acknowledgement Stamp