Mynd i'r cynnwys

Gaeafau yn Sain Ffagan

Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.

Stopiwch yma am funud

Wrth i chi edrych dros y caeau, sut mae'r tywydd heddiw?

Ydy'r haul yn cynhesu eich wyneb? Ydych chi'n cael eich gwlychu gan law mân? Oes awel neu wynt oer yn gwneud i chi deimlo ychydig yn oer?

Efallai eich bod eisoes yn gwybod bod tymereddau wedi codi dros yr ychydig ganrifoedd diwethaf. Roedd gaeafau yn Sain Ffagan yn oerach ac yn galetach yn y gorffennol.

Roedd hi 1-2 gradd yn oerach yn y 1900au, a oedd yn golygu y byddai llynnoedd a phyllau yn rhewi am hirach. Roedd hyn yn caniatáu i bobl sglefrio iâ a chyrlio.

Mewn gwirionedd, ar ddechrau'r 1900au roedd yna hyd yn oed faes cyrlio awyr agored yn y pentref.

Arferai pobl leol, gan gynnwys Hugh Pettigrew, prif arddwr Sain Ffagan, chwarae yno. Y pentrefwyr mwy cyfoethog oedd yn ei ddefnyddio’n bennaf.

I'r bobl llai cyfoethog oedd yn gweithio ar yr ystâd, roedd y gaeaf yn gyfnod anodd.

Roedd gwaith ffermwyr tenant yn dymhorol a gan nad oedd cnydau i'w cynaeafu yn y gaeaf, efallai y bydden nhw’n cael trafferth talu rhent neu gael digon i'w fwyta.

Rydyn ni'n gwybod bod Iarll Plymouth yn landlord eithaf hael.

Bob Nadolig byddai'n rhoi cig i'w denantiaid ac yn cynnal parti i’r holl blant ysgol. Mae’n siŵr bod hyn wedi gwneud y gaeafau oer hynny ychydig yn haws!

Mae dyddiau eira yn brin nawr.

Dim ond llond llaw rydyn ni'n cofio eu cael, yn gynnwys y Bwystfil o'r Dwyrain yn 2018.

Mae'r hafau'n gynhesach ac yn sychach, ac mae'r gaeafau'n fwynach ac yn wlypach.

Er ein bod ni efallai’n hoffi’r tywydd cynhesach, mae'n bwysig cofio'r effaith y mae'n ei chael ar fyd natur.

Mae newid hinsawdd yn gallu achosi tywydd eithafol a pheri dryswch i fywyd gwyllt.

Fe allwn ni i gyd wneud newidiadau i'n ffordd o fyw i helpu i arafu newid hinsawdd!

Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.

Andrew Pettigrew ar rinc cyrlio Sain Ffagan – 1979.

Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.

Andrew Pettigrew ar denantiaid ac ystâd Sain Ffagan – 1979.

Croeso i'r llwybr Bywyd Bob Dydd!

Mae Sain Ffagan yn amgueddfa hanes byw lle gallwch archwilio'r gorffennol a dysgu am sut roedd pobl yn byw...

Gaeafau yn Sain Ffagan

Bob Nadolig byddai'r Iarll Plymouth yn rhoi cig i'w denantiaid ac yn cynnal parti i’r holl blant ysgol...

Popty Derwen

Cafodd ei adeiladu yn Aberystwyth yn 1900 a'i symud i'r amgueddfa yn 1982...

Timau chwaraeon lleol

Mae chwaraeon yn rhan fawr o fywyd yng Nghymru. Mae'n rhan o hunaniaeth genedlaethol ac yn ffynhonnell balchder cenedlaethol...

Sefydliad y Gweithwyr Oakdale

Roedd Sefydliadau Gweithwyr yn rhan fawr o gymunedau glofaol Cymru rhwng yr 1880au a'r 1930au...

Goedwig Fawr Plymouth

Mae gan y coetir lled-hynafol hwn ei enw oherwydd ei fod yn arfer perthyn i Iarll Plymouth...

Bywyd yn Llwyn-yr-Eos

Adeiladwyd y ffermdy ym 1820. Ni chafodd ei symud yma fel adeiladau eraill yn yr amgueddfa; fe'i hadeiladwyd lle mae'n sefyll...

Arianwyr prosiect

Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.

Gwnaed Yr Ardd Ddirgel yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i archwilio hanes cyfoethog bwthyn Ysgubor Fawr a meithrin yr ardd.

The National Lottery Heritage Fund Acknowledgement Stamp