Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.
O'ch blaen mae Popty Derwen.
Cafodd ei adeiladu yn Aberystwyth yn 1900 a'i symud i'r amgueddfa yn 1982. Mae gan y ffwrn yn y popty hwn lysenw arbennig – Idris y Ddraig sy'n Anadlu Tân!
Byddai popty fel hwn wedi bod yn bopty cymunedol ar un adeg
Hyd at ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif, doedd gan y rhan fwyaf o deuluoedd Cymru a oedd yn byw mewn cymunedau gwledig ddim ffwrn gartref.
Yn lle hynny, roedden nhw’n gwneud eu toes eu hunain ag yn mynd ag ef i bopty gymunedol i'w bobi
Roedd poptai cymunedol yn rhan fawr o fywyd cymunedol. Roedden nhw’n lle i gyfarfod â ffrindiau a chymdogion.
Pan fyddwch chi'n cwrdd â ffrindiau, beth ydych chi'n hoffi sgwrsio amdano?
Tybed beth fyddai pobl wedi bod yn hel clecs amdano yn y popty yn y 1900au?
Ydych chi wedi clywed yr ymadrodd 'crwst uchaf' neu ‘upper crust’?
Mae pobl yn dweud hyn pan maen nhw'n sôn am bobl gyfoethog a breintiedig.
Daw'r ymadrodd 'crwst uchaf' o bobi bara ar waelod popty fel yr un ym Mhopty Derwen.
Byddai'r dorth yn dod allan gyda haen dywyll o ludw ar ei gwaelod a doedd hwnnw ddim yn dda iawn i'w fwyta.
Roedd yn well gan bobl fwyta 'crwst uchaf' y dorth.
Oes gennych chi fecws lleol?
Maen nhw’n dal i fod yn rhan arbennig o'n trefi a'n pentrefi.
Cyn i chi symud ymlaen i'r safle nesaf, cymerwch eiliad i edrych o'ch cwmpas.
Beth ydych chi’n ei weld? Pa bethau allwch chi eu teimlo a beth allwch chi ei glywed?
Oes yna arogleuon blasus yn dod o'r popty?
Beth am oedi i flasu rhywbeth o'r popty, fel tafell o Fara Brith!
Barddoniaeth ein cyfranogwyr
Cerddi a ysgrifennwyd gan gyfranogwyr yr Ardd Ddirgel ar ôl taith i Bopty Derwen.
King
cerdd gan Dean
Oh my oh my
My sugars are high
Eating all that cake
Was a big mistake.
I baked a bickie
It wasn’t too tricky
We eat them with a cuppa
For our supper.
I’m a good cook
I don’t even need a book
It’s only a little thing
That’s fit for a king.
Greedy Zac
cerdd gan Zac
Bread is so lovely
In my tummy
It was beautiful
When I woke up
I saw cake leftovers
I’m not feeling generous
No-one can eat it but me!
Croeso i'r llwybr Bywyd Bob Dydd!
Mae Sain Ffagan yn amgueddfa hanes byw lle gallwch archwilio'r gorffennol a dysgu am sut roedd pobl yn byw...
Gaeafau yn Sain Ffagan
Bob Nadolig byddai'r Iarll Plymouth yn rhoi cig i'w denantiaid ac yn cynnal parti i’r holl blant ysgol...
Popty Derwen
Cafodd ei adeiladu yn Aberystwyth yn 1900 a'i symud i'r amgueddfa yn 1982...
Timau chwaraeon lleol
Mae chwaraeon yn rhan fawr o fywyd yng Nghymru. Mae'n rhan o hunaniaeth genedlaethol ac yn ffynhonnell balchder cenedlaethol...
Sefydliad y Gweithwyr Oakdale
Roedd Sefydliadau Gweithwyr yn rhan fawr o gymunedau glofaol Cymru rhwng yr 1880au a'r 1930au...
Goedwig Fawr Plymouth
Mae gan y coetir lled-hynafol hwn ei enw oherwydd ei fod yn arfer perthyn i Iarll Plymouth...
Bywyd yn Llwyn-yr-Eos
Adeiladwyd y ffermdy ym 1820. Ni chafodd ei symud yma fel adeiladau eraill yn yr amgueddfa; fe'i hadeiladwyd lle mae'n sefyll...
Arianwyr prosiect
Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.
Gwnaed Yr Ardd Ddirgel yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i archwilio hanes cyfoethog bwthyn Ysgubor Fawr a meithrin yr ardd.



