Mynd i'r cynnwys

Goedwig Fawr Plymouth

Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.

Mae’r hyn a welwch o'ch blaen yn rhan o Goedwig Fawr Plymouth.

Coetir lled-hynafol, fe'i gelwir yn Goedwig Fawr Plymouth oherwydd ei bod yn arfer perthyn i Iarll Plymouth a oedd yn byw yng Nghastell Sain Ffagan.

Roedd gan Iarll Plymouth a'i wraig ddiddordeb mawr yn y goedwig, ac mewn garddio a choed.

Roedd ganddyn nhw hyd yn oed sawl coeden egsotig wedi'u plannu ar yr ystâd, ac efallai y byddwch chi'n gweld rhai ohonyn nhw os byddwch chi'n cadw llygad allan!

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, defnyddiwyd y goedwig gan y llywodraeth.

Chafodd llawer o'r coed hŷn eu torri i ddarparu pren ar gyfer yr ymdrech ryfel. Byddai'r pren hwn wedi cael ei ddefnyddio fel tanwydd ond hefyd i adeiladu ffosydd, llochesi a rheilffyrdd.

Unwaith daeth y rhyfel i ben, penderfynodd Iarll Plymouth roi'r goedwig i'r cyngor a chadw dim ond ardal fach ar gyfer ei ddefnydd preifat.

Heddiw mae'r goedwig hon yn dal i fod yn eiddo i Gyngor Caerdydd.

Mae hi ar agor i'r cyhoedd ac yn gartref i lawer o wahanol fywyd gwyllt – adar coetir, brogaod, madfallod dŵr, gloÿnnod byw, gwyfynod, ystlumod, draenogod a llawer mwy!

Mae hi hefyd yn llawn planhigion – ffwng, rhedyn a charpedi hardd o glychau’r gog brodorol yn y gwanwyn.

Y dyddiau hyn mae'r goedwig yn lle delfrydol i fyfyrio'n dawel.

Beth am gau eich llygaid – gwrandewch ar gân yr adar a'r dail yn sisial ar yr awel. Estynnwch eich llaw a theimlwch risgl coeden. Dychmygwch bopeth mae'r goeden honno wedi byw drwyddo.

Mae'r coed a welwch o'ch blaen wedi ein hamddiffyn ac wedi darparu ar ein cyfer mewn cyfnodau anodd. Maen nhw wedi helpu pobl i wneud bywoliaeth, wedi llunio ein tir ac yn dal i’n cynnal ni a’n bywyd gwyllt heddiw.

Croeso i'r llwybr Bywyd Bob Dydd!

Mae Sain Ffagan yn amgueddfa hanes byw lle gallwch archwilio'r gorffennol a dysgu am sut roedd pobl yn byw...

Gaeafau yn Sain Ffagan

Bob Nadolig byddai'r Iarll Plymouth yn rhoi cig i'w denantiaid ac yn cynnal parti i’r holl blant ysgol...

Popty Derwen

Cafodd ei adeiladu yn Aberystwyth yn 1900 a'i symud i'r amgueddfa yn 1982...

Timau chwaraeon lleol

Mae chwaraeon yn rhan fawr o fywyd yng Nghymru. Mae'n rhan o hunaniaeth genedlaethol ac yn ffynhonnell balchder cenedlaethol...

Sefydliad y Gweithwyr Oakdale

Roedd Sefydliadau Gweithwyr yn rhan fawr o gymunedau glofaol Cymru rhwng yr 1880au a'r 1930au...

Goedwig Fawr Plymouth

Mae gan y coetir lled-hynafol hwn ei enw oherwydd ei fod yn arfer perthyn i Iarll Plymouth...

Bywyd yn Llwyn-yr-Eos

Adeiladwyd y ffermdy ym 1820. Ni chafodd ei symud yma fel adeiladau eraill yn yr amgueddfa; fe'i hadeiladwyd lle mae'n sefyll...

Arianwyr prosiect

Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.

Gwnaed Yr Ardd Ddirgel yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i archwilio hanes cyfoethog bwthyn Ysgubor Fawr a meithrin yr ardd.

The National Lottery Heritage Fund Acknowledgement Stamp