Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.
Mae chwaraeon yn rhan fawr o fywyd yng Nghymru.
Mae'n rhan o hunaniaeth genedlaethol, yn ffynhonnell balchder cenedlaethol ac mae’n dod â chymunedau at ei gilydd.
Felly’r oedd hi hefyd ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. Roedd chwaraeon fel rygbi a bocsio yn boblogaidd iawn yn y Cymoedd ar y pryd.
Roedd chwaraeon poblogaidd ychydig yn wahanol yn Sain Ffagan.
Iarll Plymouth a oedd yn byw yng Nghastell Sain Ffagan oedd y rheswm am hyn, gan ei fod yn gefnogwr chwaraeon mawr ei hun.
Rydyn ni eisoes yn gwybod bod Iarll Plymouth yn chwarae cyrlio yn y gaeaf.
Roedd e hefyd yn gefnogwr criced brwd.
Rhoddodd dir ac arian i greu sawl tîm a maes chwarae criced. Roedd hyd yn oed yn llywydd ar glybiau criced Sain Ffagan a Sir Forgannwg.
Nid criced oedd ei unig ddiddordeb – roedd hefyd yn llywydd y clybiau croce lawnt a thenis lleol y rhoddodd arian a thir iddynt.
Roedd y boneddigion yn ymddiddori mewn chwaraeon fel criced, croce a thenis.
A’r dosbarth gweithiol yn ymwneud mwy â rygbi, pêl-droed a bocsio.
Rydyn ni'n credu bod hyn oherwydd y gwahaniaeth yn y gost o chwarae a gwylio'r chwaraeon hyn.
Beth yw eich barn chi?
A yw chwaraeon yn ein tynnu ynghyd neu'n ein gwahanu? Neu ai yw’r ddau beth yn wir?
Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.
Andrew Pettigrew ar dimau chwaraeon Sain Ffagan – 1979.
Croeso i'r llwybr Bywyd Bob Dydd!
Mae Sain Ffagan yn amgueddfa hanes byw lle gallwch archwilio'r gorffennol a dysgu am sut roedd pobl yn byw...
Gaeafau yn Sain Ffagan
Bob Nadolig byddai'r Iarll Plymouth yn rhoi cig i'w denantiaid ac yn cynnal parti i’r holl blant ysgol...
Popty Derwen
Cafodd ei adeiladu yn Aberystwyth yn 1900 a'i symud i'r amgueddfa yn 1982...
Timau chwaraeon lleol
Mae chwaraeon yn rhan fawr o fywyd yng Nghymru. Mae'n rhan o hunaniaeth genedlaethol ac yn ffynhonnell balchder cenedlaethol...
Sefydliad y Gweithwyr Oakdale
Roedd Sefydliadau Gweithwyr yn rhan fawr o gymunedau glofaol Cymru rhwng yr 1880au a'r 1930au...
Goedwig Fawr Plymouth
Mae gan y coetir lled-hynafol hwn ei enw oherwydd ei fod yn arfer perthyn i Iarll Plymouth...
Bywyd yn Llwyn-yr-Eos
Adeiladwyd y ffermdy ym 1820. Ni chafodd ei symud yma fel adeiladau eraill yn yr amgueddfa; fe'i hadeiladwyd lle mae'n sefyll...
Arianwyr prosiect
Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.
Gwnaed Yr Ardd Ddirgel yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i archwilio hanes cyfoethog bwthyn Ysgubor Fawr a meithrin yr ardd.









