Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.
Croeso i ffermdy a buarth Llwyn-Yr-Eos!
Gadewch i ni stopio am eiliad.
Beth allwch chi ei glywed ar y fferm? Oes yna synau anifeiliaid?
Beth allwch chi ei arogli? Efallai'r gwair yn yr ysgubor.... neu'r tail!
Allwch chi weld y defaid, y moch a'r hwyaid?
Adeiladwyd y ffermdy yn 1820.
Ni chafodd ei symud yma fel adeiladau eraill yn yr amgueddfa; cafodd ei adeiladu lle mae'n sefyll ar Ystâd Plymouth.
Bu llawer o deuluoedd yn byw ar Ystâd Plymouth am sawl cenhedlaeth.
Roedd Iarll Plymouth yn hoffi cyflogi aelodau o deuluoedd ei weithwyr yn hytrach na phobl o'r tu allan. Digwyddodd hyn ar y fferm.
Roedd John Williams yn ffermio yn Llwyn-Yr-Eos yn 1841, ei frawd o 1881 a'i weddw o 1891.
Roedd llawer o bobl yn meddwl eu bod nhw'n lwcus i fyw a gweithio ar yr Ystâd.
Roedd y rhent yr oedd yn rhaid ei dalu i'r Iarll yn isel ac roedd bywydau pobl yn gyfforddus, er bod gwaith fferm yn galed.
Weithiau, byddai’r fferm yn cael ymwelwyr diddorol.
Merlod pwll glo oedd yr enw ar geffylau a oedd yn gweithio yn y pyllau glo.
Pan oedden nhw’n mynd yn rhy hen i wneud y gwaith, byddai rhai merlod o’r pyllau glo yn dod yma i Lwyn-Yr-Eos. Am le braf i ymddeol iddo.
Nid ceffylau a da byw oedd yr unig anifeiliaid ar yr Ystâd. Roedd anifeiliaid hela, fel cwningod a ffesantod, yn cael eu cadw yma hefyd.
Roedd yr Iarll yn hoffi mynd i saethu gyda'i ffrindiau.
Roedd hyn yn ypsetio rhai o'r ffermwyr, ac roedden nhw’n cyhuddo’r cŵn hela o ddifrodi eu cnydau!
Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.
Andrew Pettigrew ar Llwyn-yr-Eos – 1979.
Barddoniaeth ein cyfranogwyr
Mae'r gerdd hyfryd hon, a ysgrifennwyd gan Jodie, yn dychmygu bywydau'r ceffylau a ddaeth i fyw yn Sain Ffagan.
Heart of a Champion
cerdd gan Jodie
I am a horse
I am free and wild
Running freely, happily
The wind against my mane
The herds galloping softly
I feel the earth against my hooves
The trees stand tall in quiet grace
A whispered job
Happiness lives in hearts like these.
Croeso i'r llwybr Bywyd Bob Dydd!
Mae Sain Ffagan yn amgueddfa hanes byw lle gallwch archwilio'r gorffennol a dysgu am sut roedd pobl yn byw...
Gaeafau yn Sain Ffagan
Bob Nadolig byddai'r Iarll Plymouth yn rhoi cig i'w denantiaid ac yn cynnal parti i’r holl blant ysgol...
Popty Derwen
Cafodd ei adeiladu yn Aberystwyth yn 1900 a'i symud i'r amgueddfa yn 1982...
Timau chwaraeon lleol
Mae chwaraeon yn rhan fawr o fywyd yng Nghymru. Mae'n rhan o hunaniaeth genedlaethol ac yn ffynhonnell balchder cenedlaethol...
Sefydliad y Gweithwyr Oakdale
Roedd Sefydliadau Gweithwyr yn rhan fawr o gymunedau glofaol Cymru rhwng yr 1880au a'r 1930au...
Goedwig Fawr Plymouth
Mae gan y coetir lled-hynafol hwn ei enw oherwydd ei fod yn arfer perthyn i Iarll Plymouth...
Bywyd yn Llwyn-yr-Eos
Adeiladwyd y ffermdy ym 1820. Ni chafodd ei symud yma fel adeiladau eraill yn yr amgueddfa; fe'i hadeiladwyd lle mae'n sefyll...
Arianwyr prosiect
Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.
Gwnaed Yr Ardd Ddirgel yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i archwilio hanes cyfoethog bwthyn Ysgubor Fawr a meithrin yr ardd.











