Welcome to St Fagan's Heritage Trails!
Pwyswch chwarae i wrando ar y sain. Gallwch oedi neu symud drwy'r trac gan ddefnyddio'r rheolyddion.
Croeso i Sain Ffagan! Rydych chi'n sefyll yn Atriwm atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru.
Mae Sain Ffagan yn amgueddfa hanes byw lle gallwch archwilio'r gorffennol a dysgu am sut roedd pobl yn byw.
Efallai eich bod wedi bod yma o'r blaen, neu efallai mai dyma'ch tro cyntaf.
Ni yw'r prosiect Yr Ardd Ddirgel, rhan o Innovate Trust, elusen sy'n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu. Rydyn ni’n rheoli ac yn gofalu am ardd breifat yn yr amgueddfa ac rydyn ni hefyd wedi ymchwilio i hanes y safle a'r bobl a oedd yn byw yma.
Heddiw rydyn ni eisiau rhannu'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu gyda chi a rhoi profiad gwahanol i chi yn Sain Ffagan.
Rydyn ni wedi creu 2 lwybr treftadaeth a fydd yn eich tywys drwy'r safle ac yn cynnig gwybodaeth newydd am yr adeiladau a'r bobl a oedd yn byw yma.
Felly dewch, i ffwrdd â ni! Dilynwch yr arwyddion allan heibio'r caffi yn barod i gamu yn ôl mewn amser gyda ni…
Llwybr Bywyd Bob Dydd
Llwybr Amseroedd rhyfel yn Sain Ffagan
Arianwyr prosiect
Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y DU.
Gwnaed Yr Ardd Ddirgel yn bosibl gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i archwilio hanes cyfoethog bwthyn Ysgubor Fawr a meithrin yr ardd.