Mae'r prosiect hwn wedi dod i ben.
Cymryd yr Awenau
Mae Cymryd yr Awenau yn brosiect gan Innovate Trust yn Rhondda Cynon Taf, gyda'r nod o wella sgiliau cyflogaeth a lles.
Mae Cymryd yr Awenau ar agor i unrhyw un rhwng 18 a 24 oed, sydd ag anabledd dysgu neu gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio, ac nad ydynt yn gweithio ar hyn o bryd.
Ynglŷn ag Cymryd yr Awenau
Mae Cymryd yr Awenau’n cynnig y cyfle i bobl ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill ddatblygu sgiliau sy'n gysylltiedig â gwaith, meithrin hyder a helpu i ddod ychydig yn agosach at gyflogaeth trwy ddod o hyd i'r cyfle gwirfoddoli neu ddysgu cywir.
Rydym yn teilwra sesiynau i'ch anghenion chi. Gallwn weithio gyda phobl ar sail 1-1 neu gynnig sesiynau grŵp.
Mae sesiynau grŵp Cymryd yr Awenau’n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a datblygu sgiliau cymdeithasol.
Adborth ar y prosiect
Fe helpodd Cymryd yr Awenau fi i feithrin fy hyder, defnyddio Zoom, a chwrdd â phobl newydd. Fe wnaeth fy helpu i fynd allan a gwneud ffrindiau newydd ac fe helpodd fi i gael swydd â thâl.
– Richie, cyfranogwr Cymryd yr Awenau
Elfennau allweddol
Paratoi ar gyfer swydd
- Cymorth i ddod o hyd i gyfle gwirfoddoli neu ddysgu addas
- Cymorth gyda ffurflenni cais
- Ffug Gyfweliadau
- Ysgrifennu CV
- Datblygu sgiliau cyflwyno
Cymwysterau achrededig
- Ymwybyddiaeth amgylcheddol
- Cynhwysiant digidol
- Cyfleoedd cyfartal
- Rheoli arian
- Meithrin hyder
- Cymorth Cyntaf
- Diogelwch Tân
- Iaith Arwyddion Prydain a Makaton
Gweithdai
- Ymddygiad yn y gwaith
- Gweithio fel tîm
- Gwirfoddoli
- Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
- Goresgyn rhwystrau i waith



