Mynd i'r cynnwys

Adfer Afon Ddawan

Mae Adfer Afon Ddawan yn brosiect a gynhelir gan Innovate Trust mewn partneriaeth â Thîm Cefn Gwlad Bro Morgannwg a Phrosiect Tirwedd Adfer Afon Ddawan.

Mae'r prosiect yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu i gymryd rhan mewn gwaith gwella amgylcheddol yn nalgylch Afon Ddawan.  

Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan Gronfa Bioamrywiaeth Dŵr Cymru.

a group of people volunteering

Ynglŷn ag Adfer Afon Ddawan

Rydym yn gweithio law yn llaw â Thîm Cefn Gwlad Bro Morgannwg a Phrosiect Tirwedd Adfer Afon Ddawan i wella'r bioamrywiaeth ar hyd Afon Ddawan ym Mro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf.

Mae tarddiad Afon Ddawan yn Llanhari, ac mae’n llifo trwy Ddyffryn Morgannwg a'r Bont-faen, gan gyrraedd Sianel Bryste ger Aberddawan.

Mae gweithgareddau Adfer Afon Ddawan yn rhad ac am ddim yn bennaf!

Rydym yn annog unrhyw un i roi cynnig ar y prosiect - ni waeth beth fo'ch profiad blaenorol na'ch anghenion cymorth.

Cysylltwch â'n tîm Sgiliau a Lles i gael rhagor o wybodaeth.

Elfennau'r prosiect

Mae gweithgareddau’r prosiect yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

    • Plannu coed a gwrychoedd
    • Hau hadau blodau gwyllt a glaswellt
    • Adeiladu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt lleol fel dyfrgwn a gwiberod
    • Creu pyllau
    • Plannu glaswellt i helpu i sefydlogi twyni tywod
    • Cynnal arolygon bywyd gwyllt
    • Monitro bywyd planhigion

Drwy ymuno ag Adfer Afon Ddawan byddwch yn: 

  • Dysgu am natur, cadwraeth a bywyd gwyllt 
  • Dysgu sut i ddefnyddio offer 
  • Cwrdd â phobl newydd 
  • Gwella eich ffitrwydd 
  • Helpu natur 

Arianwyr prosiect

Dwr Cymru Welsh Water logo