Mynd i'r cynnwys

Porthkerry Park Project

Prosiect amgylcheddol yw Prosiect Parc Porthceri, sy’n cael ei gynnal gan Innovate Trust ac fe’i ariennir gan y Waterloo Foundation..

Mae ein Prosiect Parc Porthceri yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion cymorth ychwanegol i gymryd rhan mewn gweithgareddau amgylcheddol ym Mharc Gwledig Porthceri. 

Innovate Trust Porthkerry Park Project volunteers sitting on rocks outdoors in a forest. All are facing the camera smiling, with gardening shears in their hands

Ynglŷn â’n Prosiect Parc Porthceri

Mae Prosiect Parc Porthceri yn fenter sy'n dod â natur, cymuned a lles ynghyd.

Mae’r prosiect yn cynnig cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu ac anghenion cymorth ychwanegol gysylltu â byd natur, datblygu sgiliau newydd, a mwynhau’r awyr agored mewn amgylchedd cefnogol a chynhwysol.

Mae gwirfoddolwyr Prosiect Parc Porthceri yn gweithio ochr yn ochr â Cheidwaid Cymunedol Bro Morgannwg i wneud gwaith gwella amgylcheddol pwysig ledled y parc.

Barod i gysylltu â natur?

Cysylltwch â'n tîm Sgiliau a Lles i ddysgu mwy a chychwyn ar eich siwrne gyda Phrosiect Parc Porthceri.

Elfennau allweddol

Cewch ddysgu sgiliau gwerthfawr fel plannu coed, clirio nentydd, a chael gwared ar rywogaethau ymledol.

Cewch gymryd rhan mewn gwaith cadwraeth ymarferol, gan helpu i ddiogelu a chadw amgylchedd naturiol Parc Gwledig Porthceri.

Cewch ddarganfod rhyfeddodau byd natur trwy weithdai a gweithgareddau diddorol.

Rydym yn helpu pobl i fwynhau a gwerthfawrogi byd natur. Mae ein gwirfoddolwyr Prosiect Parc Porthceri yn dysgu sut i fod yn gyfrifol am yr amgylchedd.

Cewch gysylltu â phobl o'r un anian, gwella'ch iechyd corfforol a meddyliol, a rhoi hwb i'ch hyder!

Mae ein gweithgareddau wedi'u cynllunio i hybu annibyniaeth, hunan-barch a hyder.

A group of Porthkerry Park Project volunteers in a field raking dead grass with manual raking tools. It is a sunny day

Gweithgareddau Prosiect Parc Porthceri

Mae gweithgareddau’r prosiect yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Cribinio gwair techneg rheoli glaswelltir traddodiadol i hyrwyddo bioamrywiaeth.
  • Plannu a gofalu am goed: plannu coed a llwyni newydd, a chynnal y rhai presennol
  • Clirio nentydd cael gwared ar lanast a rhywogaethau ymledol i wella ansawdd dŵr a chynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt
  • Casglu sbwriel cadw’r parc yn lân ac yn daclus i bawb ei fwynhau
  • Cael gwared ar rywogaethau ymledol rheoli lledaeniad planhigion anfrodorol sy'n bygwth ecosystemau lleol
  • Monitro bywyd gwyllt arsylwi a chofnodi bywyd gwyllt lleol, gan gyfrannu at ddata cadwraeth gwerthfawr.

Adborth ar y prosiect

Porthkerry Park Project Volunteer, Shane, cutting hedges

Doeddwn i ddim yn gwybod sut i wneud pethau fel defnyddio tŵls cyn ymuno â Phrosiect Parc Porthceri.

Rydw i wedi magu hyder trwy ddysgu’r pethau hynny. Dydw i ddim eisiau i hyn ddod i ben.

Rwyf am i hyn wella fy hyder hyd yn oed yn fwy ac efallai hyd yn oed gallwn fod yn arddwr iawn.

Arianwyr prosiect

the waterloo foundation