Un Blaned
Prosiect gweithredu ar yr hinsawdd yw Un Blaned, sy'n cael ei gynnal gan Innovate Trust a'i ariannu gan Rhaglen Camau Cynaliadwy Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae’r prosiect yn annog oedolion ag anableddau dysgu i ddysgu am newid hinsawdd ac yn eu dysgu sut i weithredu ar yr hinsawdd gartref ac yn y gymuned.
About our One Planet project
Siwrne tuag at ddyfodol gwyrddach.
Mae ein prosiect Un Blaned yn ymroddedig i rymuso pobl ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i gael effaith gadarnhaol ar ein planed. Trwy gyfuniad o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb, rydym yn darparu cyfleoedd dysgu diddorol i ddeall newid yn yr hinsawdd a lleihau eich ôl troed carbon.
Mae hwn yn brosiect 3 blynedd sy’n cael ei gynnal tan fis Awst 2026.
Ydych chi’n barod i weithredu ar yr hinsawdd?
Cysylltwch â'n tîm Sgiliau a Lles i ddysgu mwy a dechrau eich siwrne Un Blaned.
Elfennau allweddol
Dysgu hyblyg
Gallwch fynychu sesiynau ar-lein trwy ein Ap Insightneu ymuno â gweithgareddau wyneb yn wyneb yn eich cartref neu gymuned drwy gysylltu â’n tîm Sgiliau a Lles.
Dull cynhwysol
Mae ein gweithgareddau wedi'u cynllunio i fod yn hygyrch i bawb, waeth beth fo'u profiad neu anghenion cymorth.
Rhad ac am ddim
OMae ein gweithgareddau yn rhad ac am ddim yn bennaf ac rydym yn annog unrhyw un i ymuno.
Gweithgareddau prosiect Un Blaned
Mae gweithgareddau’r prosiect yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Plannu coed
- Archwiliadau ynni yn y cartref
- Dysgu am deithio sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd
- Sesiynau hyfforddi ar-lein i ddeall newid hinsawdd
- Dysgu sut i leihau, ailddefnyddio, ailgylchu a thrwsio
- Mynychu caffis trwsio a chynlluniau benthyca cymunedol
- Dysgu technegau coginio i leihau gwastraff bwyd
- Gwersi garddio carbon-gyfeillgar fel sut i dyfu eich bwyd eich hun a phlannu sy'n gwrthsefyll sychder
- Dysgu am gompostio gartref ac abwydfeydd
- Creu fideos i ddysgu eraill am weithredu ar yr hinsawdd
Darganfod, dysgu, gweithredu
Datblygu dealltwriaeth
Dysgwch am gymhlethdodau newid hinsawdd a'i effaith ar ein byd.
Gweithredu
Darganfod ffyrdd effeithiol o leihau eich ôl troed carbon a chyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.
Magu sgiliau
Dysgwch bethau newydd, fel atgyweirio eitemau neu blannu coed, a all fod o fudd i chi a'r blaned.
Byddwch yn rhan o gymuned
Cwrdd â phobl o'r un anian, adeiladu cyfeillgarwch, a dod yn rhan o gymuned gefnogol.
Arianwyr prosiect





