Mynd i'r cynnwys
A group of Insight into Climate Action volunteers sat around an open fire, with someone demonstrating to them how to light a fire

Insight ar Weithredu Hinsawdd

Mae Insight ar Weithredu Hinsawdd yn brosiect a gynhelir gan Innovate Trust ac a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cod PostNod y prosiect yw addysgu pobl ag anableddau dysgu am achosion a chanlyniadau newid hinsawdd a pha gamau y gallan nhw eu cymryd i leihau eu heffaith.

A group of Insight into Climate Action volunteers sat around an open fire, with someone demonstrating to them how to light a fire

Ynglŷn ag Insight ar Weithredu Hinsawdd

Mae Insight ar Weithredu Hinsawdd yn addysgu cyfranogwyr am effaith gweithredu ar yr hinsawdd drwy gyfres o weithdai ar-lein, cyrsiau hyfforddi, adnoddau digidol a rennir a sesiynau wyneb yn wyneb.

Bydd y prosiect hefyd yn cefnogi cyfranogwyr i ddylunio a chreu eu Hadnoddau addysgol Hawdd eu Deall eu hunain yn trafod newid hinsawdd fel bod y wybodaeth hanfodol hon yn hygyrch ac yn cael ei rhannu â chynulleidfa ehangach.

Gweithgareddau’r prosiect

Mae gweithgareddau Insight ar Weithredu Hinsawdd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Gweithdai ar sut i fod yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd, trafnidiaeth werdd a newid hinsawdd
  • Plannu coed
  • Gweithgareddau amgylcheddol ymarferol fel casglu sbwriel a gwaith cadwraeth
  • Dylunio adnoddau Hawdd eu Deall am newid hinsawdd

Adborth ar y prosiect

Insight into Climate Action volunteer, Owen, digging a hole in the grass with a shovel

Rwy'n falch iawn o'r gwahanol brosiectau rydw i wedi gweithio arnyn nhw gydag Innovate Trust ac rwy'n cael dangos fy ngwaith i deulu a ffrindiau pan fyddan nhw'n ymweld hefyd... Rwy'n mwynhau gweithio gyda'r tîm ac yn teimlo'n fwy cyfforddus drwy'r amser.

Arianwyr prosiect

the national lottery community fund