Hyb Gwirfoddoli
ap Insight
Mae Hyb Gwirfoddoli Innovate Trust yn nodwedd newydd o ap Insight a ddatblygwyd gan, ac ar gyfer, oedolion ag anableddau dysgu.
Mae’r Hyb Gwirfoddoli yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli ystyrlon, a chymryd rhan ynddyn nhw.
Mae ein prosiect Hyb Gwirfoddoli yn bosibl diolch i gyllid Grant Strategol CGGC .
Amdan yr Hyb Gwirfoddoli
Ein cenhadaeth yw gwneud gwirfoddoli yn hygyrch, yn bleserus ac yn werth chweil i bawb.
Mae'r Hyb Gwirfoddoli yn ofod ar-lein o fewn ein ap Insight sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.
P'un a ydych chi'n awyddus i ennill sgiliau newydd, rhoi rhywbeth yn ôl i achosion lleol, neu’ch bod eisiau gwneud gwahaniaeth, mae Hyb Gwirfoddoli Insight yn ei gwneud hi'n hawdd dod o hyd i'r rôl ddelfrydol.
Gall aelodau Insight gael mynediad i'r Hwb Gwirfoddoli drwy'r ap Insight i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn lleol iddyn nhw, neu ar-lein.
Mae ap Insight yn fwy na dim ond llwyfan cymdeithasol.
Mae'n offeryn pwerus ar gyfer cysylltu oedolion ag anableddau dysgu â chyfleoedd gwirfoddoli ystyrlon trwy'r Hyb Gwirfoddoli.
Mae ein Hyb Gwirfoddoli yn chwalu rhwystrau ac yn creu profiad gwirfoddoli mwy cynhwysol.
Pam defnyddio'r Hyb Gwirfoddoli?
Mynediad hawdd at gyfleoedd
Dim mwy o chwilio trwy lawer o wefannau na chysylltu â llawer o sefydliadau gwahanol i ddod o hyd i gyfleoedd sy'n addas i chi.
Mae Hyb Gwirfoddoli Insight yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli yn uniongyrchol i oedolion ag anableddau dysgu, i gyd o fewn un nodwedd hawdd ei defnyddio o ap Insight.
Wedi'i deilwra i'ch diddordebau
Mae gan yr Hyb Gwirfoddoli hidlwyr chwilio hawdd eu defnyddio.
Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio i ddod o hyd i rolau sy'n cyd-fynd â'ch sgiliau, eich diddordebau a'ch argaeledd.
P'un a ydych chi'n angerddol am weithio gydag anifeiliaid, cefnogi'r amgylchedd, neu helpu eraill i ddysgu sgiliau newydd, fe welwch chi rywbeth sy'n addas i chi.
Cyswllt uniongyrchol â sefydliadau
Mae Hyb Gwirfoddoli Insight yn caniatáu i oedolion ag anableddau dysgu gysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau lleol trwy ap Insight.
Mae hyn yn caniatáu ichi ddysgu mwy am eu cenhadaeth, y gwaith maen nhw'n ei wneud, a'r rolau gwirfoddoli penodol maen nhw'n eu cynnig.
Gallwch hyd yn oed fynegi eich diddordeb a dechrau'r broses ymgeisio o fewn Hyb Gwirfoddoli Insight.
Proses ymgeisio ddiogel a saff
Mae Hyb Gwirfoddoli ap Insight yn darparu amgylchedd diogel ac wedi’i fonitro i oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion cymorth ychwanegol.
Gallwch fod yn hyderus bod eich gwybodaeth yn ddiogel a'ch bod yn rhyngweithio â sefydliadau dibynadwy.
Cymorth ac adnoddau Hawdd eu Deall
Drwy’r Hyb Gwirfoddoli, gall oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion cymorth ychwanegol gael mynediad at awgrymiadau ac adnoddau ymarferol i feithrin hyder, ennill sgiliau newydd, a dysgu am wirfoddoli.
Mae'r holl adnoddau ar yr Hyb Gwirfoddoli yn ddogfennau neu fideos Hawdd eu Deall.
Straeon a phrofiadau go iawn
Mae adran straeon yr Hyb Gwirfoddoli yn caniatáu i aelodau ap Insight ddathlu llwyddiannau a phrofiadau pobl sydd wedi dod o hyd i gyfleoedd drwy'r Hyb Gwirfoddoli.
Mae straeon ac adborth a rennir yn ei gwneud hi'n fwy diogel i oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion cymorth ychwanegol wneud effaith gadarnhaol mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw.
Cyd-greu yw’r allwedd
Drwy gydweithio'n agos â gwirfoddolwyr ag anableddau dysgu o Gaerdydd, Y Fro, Rhondda Cynon Taf, ac ar-lein, mae hyn yn sicrhau bod yr Hyb Gwirfoddoli yn diwallu anghenion a dyheadau unigryw.
Drwy sesiynau misol, mae ein gwirfoddolwyr yn llunio'r cynnwys a'r dyluniad i greu gofod gwirioneddol gynhwysol a grymuso.
P'un a ydych chi'n wirfoddolwr profiadol neu newydd ddechrau, mae gan yr Hyb Gwirfoddoli rywbeth i'w gynnig.
Credwn fod gan bawb y potensial i gyfrannu, waeth beth fo'u profiad neu ofynion cymorth.
Profwch lawenydd gwirfoddoli!
Arianwyr prosiect









