Rhandir y Mynydd Bychan allotment
Mae ein rhandir yn y Mynydd Bychan yn gyfle gwych i wirfoddolwyr ag anableddau dysgu fod yn rhan o brosiect gyda chanlyniadau mawr a gwaith caled.
Ers 2021, mae Innovate Trust wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd i ddatblygu rhandir cymunedol ar safle rhandir y Mynydd Bychan yn y Rhath.
Ynglŷn â’n Rhandir y Mynydd Bychan
Mae’r safle wedi cael ei wneud mor hygyrch â phosibl, a gyda chymaint i’w wneud, mae gweithgareddau a thasgau wedi bod ar gael i gefnogi unigolion ag ystod eang o anghenion cymorth.
Mae gan ein rhandir yn y Mynydd Bychan elfennau synhwyraidd i gymaint o agweddau o’r rhandir â phosib, ac mae cymaint o lwyddiant wedi bod gyda thyfu cynnyrch, mae digon wedi bod i bawb fynd â pheth adref gyda nhw.
Mae gennym amrywiaeth o dasgau a gweithgareddau ar gyfer gwirfoddolwyr, yn dibynnu ar eu dymuniadau a'u hanghenion. Mae pob rhan o'r safle yn addas ar gyfer unigolion ag amrywiaeth eang o anghenion cymorth.
Gyda chymysgedd o ardaloedd garddwriaethol a gwyllt, mae elfen synhwyraidd i bob rhan o’n rhandir.
Barod i gymryd rhan?
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu ymweld â rhandir y Mynydd Bychan, cysylltwch â ni. Byddem wrth ein bodd yn eich tywys o gwmpas.
Partneriaid gweithgaredd
Rhagor o weithgareddau cyfranogi
Newyddion diweddaraf
Clywch y straeon a diweddariadau diweddaraf gan y tîm Cyfranogi yn Innovate Trust.







