Mae'r prosiect hwn wedi dod i ben.
Cnoi Cil
Mae ein sesiynau Cnoi Cil yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu i baratoi prydau blasus ac iach gyda chyfoedion mewn amgylchedd croesawgar a chynhwysol.
Nod y sesiynau yw helpu i wella iechyd a lles cyfranogwyr trwy awgrymiadau a thechnegau bwyta'n iach.
Mae'r gweithdai hyn yn bosibl diolch i Ymchwil y Galon y Deyrnas Unedig.
Ynglŷn â'n gweithdai Cnoi Cil
Cwrs gweithdy bwyta'n iach 6 wythnos yw Cnoi Cil sy'n cyfuno dysgu, trafod a gwneud byrbrydau iach, a heb anghofio eu blasu hefyd!
Mae'r sesiynau'n helpu pobl ag anableddau dysgu i gael gwybodaeth a sgiliau i baratoi a choginio prydau maethlon iddyn nhw eu hunain.
Anogir cyfranogwyr i flasu bwyd nad ydyn nhw efallai wedi'i fwyta o'r blaen ac i ehangu eu gwybodaeth am fwyd a'u blas.
Mae llawer o bleser i’w gael o gymryd rhan yn y gwaith o baratoi'r bwyd ac annog cyfoedion i roi cynnig ar bethau newydd.
Er mwyn cefnogi iechyd cyffredinol y cyfranogwyr, rhoddir traciwr ffitrwydd i'r rhai sy'n cofrestru ar gyfer y cwrs ac fe'u hanogir i osod nodau fel nifer camau dyddiol, gan ganolbwyntio ar eu hiechyd corfforol yn ogystal ag iechyd bwyta.
Mae gweithdai hefyd yn ymdrin â phwnc iechyd meddwl a lles, grwpiau bwyd penodol, a phlatiau amgen.
Adborth ar weithgaredd
Roeddwn i'n ei chael hi'n ddefnyddiol iawn ceisio coginio i mi fy hun. Rydw i hyd yn oed wedi rhoi cynnig ar rai o'r ryseitiau gartref.
- Kevin, cyfranogwr Cnoi Cil
Gweithgareddau Cyfranogiad parhaus
Arianwyr prosiect




