Mae'r prosiect hwn wedi dod i ben.
Hybu Natur
Mae Hybu Natur yn brosiect amgylcheddol a gynhelir gan Innovate Trust ac a ariennir gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi CGGC.
Mae ein prosiect Hybu Natur yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol eraill i ddysgu am faterion amgylcheddol a gwella bioamrywiaeth yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Ynglŷn ag Hybu Natur
Mae gan bob gweithgaredd Hybu Natur nod amgylcheddol, gan ganolbwyntio ar wella bioamrywiaeth a lleihau gwastraff.
Mae ein gweithgareddau’n rhad ac am ddim yn bennaf, ac rydyn ni’n annog unrhyw un i ymuno – ni waeth beth yw eich profiad blaenorol neu anghenion cymorth!
Adborth ar y prosiect
Dw i'n dal yn swil, ond dw i'n hyderus gyda Hybu Natur oherwydd dw i'n gwybod beth y mae angen i mi ei wneud.
– Adam, gwirfoddolwr Hybu Natur
Elfennau allweddol
Gweithgareddau’r prosiect
- Sesiynau gwaith cadwraeth ymarferol gyda cheidwaid Caerdydd a Bro Morgannwg i ofalu am y parciau a'r gwarchodfeydd natur lleol
- Gweithgareddau addysgol i ddysgu am yr amgylchedd, ailgylchu a chompostio
- Casglu sbwriel
- Arolygon bywyd gwyllt
- Gweithio gyda grwpiau cymunedol i wneud Caerdydd a Bro Morgannwg yn fwy gwyrdd
Yr hyn rydych chi’n ei gael o Hybu Natur
- Helpu'r amgylchedd
- Dysgu sgiliau cadwraeth ymarferol fel sut i ddefnyddio offer yn gywir a sut i blannu coed
- Dysgu am natur, bywyd gwyllt a'r amgylchedd
- Gwella eich ffitrwydd
- Cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau
Cynllun cyfaill gwirfoddol
Gallwn eich paru â gwirfoddolwr a fydd yn eich cefnogi i gael cyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol eraill o amgylch Caerdydd a Bro Morgannwg.
Gall eich cyfaill gwirfoddol eich helpu i deithio i'r gweithgaredd a rhoi cefnogaeth ac anogaeth i chi yn ystod y sesiwn.
Rhagor o brosiectau Sgiliau a Lles
Arianwyr prosiect





