Mynd i'r cynnwys

Ffyrdd o bleidleisio

Hawdd ei Ddeall gan Innovate Trust

Mae yna 3 ffordd y gallwch bleidleisio mewn etholiadau.

1. Pleidleisio drwy’r post cyn diwrnod etholiad.

person sy'n pleidleisio mewn bwth pleidleisio

2. Pleidleisio’n bersonol ar ddiwrnod etholiad.

person sy'n gofyn i berson arall bleidleisio eu dewis drostyn nhw

3. Pleidleisio drwy ddirprwy ar ddiwrnod etholiad.

eich pleidlais eich llais. Cofrestrwch i bleidleisio gov.uk/register-to-vote

Cofwich:

Mae’n rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol os ydych chi am bleidleisio!

Pleidleisio drwy’r post

Mae person yn rhoi bawd i fyny. Y tu ôl iddynt mae ystafell fyw gyda soffa a bwrdd. Mae hyn yn dangos pleidleisio o gartref.

Mae’n well gan lawer o bobl bleidleisio drwy’r post.

Mae’n golygu y gallwch chi ymlacio ychydig mwy a gwneud pethau yn y ffordd eich siwtio chi orau.

Mae dau berson yn eistedd wrth fwrdd yn edrych ar liniadur gyda'i gilydd. Maen nhw'n cofrestru i bleidleisio ar-lein.

Mae’n golygu y gallwch ofyn am yr help sydd ei angen arnoch i lenwi’r papur pleidleisio gartref.

Cysylltwch â’ch cyngor ychydig wythnosau cyn yr etholiad i ofyn am bleidlais bost.

Fe wnân nhw anfon ffurflen i chi ei llofnodi a’i hanfon yn ôl iddyn nhw.

Dangosir llyfryn gyda'r geiriau "Pecyn pleidleisio" ar y blaen. Mae hyn yn dangos gwybodaeth am bleidleisio.

Pan fydd diwrnod etholiad yn nesáu, fe fyddan nhw’n anfon pecyn pleidleisio ichi.

Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth am beth mae’n rhaid ichi ei wneud nesaf.

Unwaith byddwch wedi llenwi’r papur pleidleisio a’r ffurflenni eraill, rhaid ichi ei anfon yn ôl i’r cyngor.

Dangosir dyddiadur agored. Mae'n dweud "Post voting pack!" ar un diwrnod a "Election Day!" ar ddiwrnod arall. Mae hyn yn dangos cynllunio pryd i bleidleisio.

Cofiwch ei anfon yn ôl mewn da bryd cyn diwrnod yr etholiad.

person sy'n pleidleisio mewn bwth pleidleisio

Pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio

Mae llaw yn rhoi papur pleidleisio mewn blwch pleidleisio pinc. Mae'r blwch yn dweud "Pleidleisio"

Mae llawer o bobl yn hoffi pleidleisio yn bersonol yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.

wales polling card

Ychydig ddyddiau cyn yr etholiad, fe gewch chi gerdyn pleidleisio.

Mae hwn yn cynnwys cyfeiriad ac oriau agor eich gorsaf bleidleisio.

Dangosir dyddiadur agored. Mae un dudalen yn dweud "Diwrnod pelidleisio!". Mae hyn yn dangos diwrnod etholiad y cyngor.

Mae’r cerdyn hefyd yn eich atgoffa o ddiwrnod yr etholiad a pha fath o etholiad yw ef.

cerdyn adnabod

Ar ddiwrnod yr etholiad, ewch i’r orsaf bleidleisio.

Gallwch ddangos eich cerdyn pleidleisio neu ddweud eich enw a chyfeiriad wrth staff yr orsaf bleidleisio.

Fe wnân nhw wirio eich prawf adnabod ffotograffig.

person sy'n ticio blwch ar gerdyn pleidleisio

Byddan nhw’n rhoi’r papur pleidleisio ichi ac yn egluro sut i’w lenwi.

person sy'n pleidleisio mewn bwth pleidleisio

Bydd angen ichi fynd i fwth pleidleisio i’w gwblhau gan fod hwn yn fater preifat.

Cofiwch, does gan neb arall hawl gwybod dros bwy rydych chi’n pleidleisio.

person sy'n rhoi ei bleidlais mewn blwch pleidleisio

Ar ôl ichi ei lenwi, plygwch y papur a’i roi yn y blwch pleidleisio wrth ymyl y staff pleidleisio.

person sy'n gofyn i berson arall bleidleisio eu dewis drostyn nhw

Pleidlais drwy ddirprwy

Dangosir person. Uwchben eu pen mae swigen feddwl gyda llun o rywun yn sefyll mewn bwth pleidleisio.

Pleidlais drwy ddirprwy yw pan fyddwch yn gofyn i rywun rydych chi’n eu trystio’n arw i fynd i’r orsaf bleidleisio ar eich rhan ar ddiwrnod etholiad.

Dangosir llyfryn gyda'r geiriau "Pleidleisio drwy ddirprwy" ar y blaen. Mae hyn yn dangos gwybodaeth am bleidleisio drwy ddirprwy.

Mae’n rhaid ichi gysylltu â’ch cyngor i gael ffurflen arbennig ychydig wythnosau cyn y diwrnod etholiad.

Fe fyddan nhw’n anfon mwy o wybodaeth i chi a’ch dirprwy ar beth i’w wneud nesaf.

Logo ariennir gan Llywodraeth Cymru