Mynd i'r cynnwys

Pleidleisio: geiriau pwysig i’w gwybod

Hawdd ei Ddeall gan Innovate Trust

woman at information desk in library

Dyma ganllaw i rai o’r geiriau sy’n cael eu defnyddio pan rydyn yn siarad am bleidleisio a democratiaeth.

2 wirfoddolwr yn dathlu

Mae angen i’n lleisiau ni oll gael eu clywed.

Mae hynny’n dda i’n lles ni.

grwp o ffrindiau

Mae cael ein lleisiau wedi’u clywed hefyd yn helpu ein cymunedau.

Mae syniadau gwahanol yn helpu i wneud pethau’n well i bawb.

person sy'n rhoi ei bleidlais mewn blwch pleidleisio

Blwch pleidleisio

Dyma’r bocs y mae pleidleiswyr yn rhoi’r papur pleidleisio ynddo ar ôl ei lenwi.

Mae’r bocs wedi’i gloi fel nad oes neb yn cael gweld y papurau nes bydd hi’n amser eu cyfrif.

person sy'n pleidleisio mewn bwth pleidleisio

Bwth pleidleisio

Y lle preifat ble’r ydych yn llenwi eich papur pleidleisio er mwyn ichi gael cadw eich pleidlais yn gyfrinach.

person sy'n ticio blwch ar gerdyn pleidleisio

Bwrw pleidlais

Llenwi’r papur pleidleisio i ddewis eich ymgeisydd.

wales polling card

Cerdyn pleidleisio

Os ydych chi’n pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio yn y post.

Mae’n dweud wrthych beth i’w wneud ar ddiwrnod pleidleisio.

eich pleidlais eich llais. Cofrestrwch i bleidleisio gov.uk/register-to-vote

Cofrestr etholiadol

Rhestr o bobl sy’n cael pleidleisio mewn etholiad. Caiff y rhestr hon ei chadw gan bob cyngor lleol.

Mae’n rhaid ichi fod ar y rhestr hon i gael pleidleisio mewn etholiadau.

Logo y Comisiwn Etholiadol

Comisiwn Etholaethol

Y sefydliad annibynnol sy’n gwneud yn siŵr bod etholiadau’n deg.

police and crime commissioner logo

Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Dyma’r pennaeth etholedig ar yr heddlu sy’n gwneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei wario’n iawn.

uk land, with wales, scotland and england flags next to it

Democratiaeth

Pan fo gan bawb hawl pleidleisio mewn etholiad, fel sy’n digwydd yn y Deyrnas Unedig.

Y pleidleisiau hyn sy’n penderfynu pwy fydd yn rhedeg y llywodraeth neu’r cyngor.

dyddiadur gyda diwrnod yr etholiad wedi'i ysgrifennu ar gofnod dydd Iau

Diwrnod pleidleisio

Dyma’r diwrnod pan fydd etholiad yn cael ei gynnal.

Mae’n rhaid i bob pleidlais gael ei gwneud neu ei derbyn erbyn y dyddiad hwn.

welcome to pontypridd town centre sign

Etholaeth

Grŵp o bleidleiswyr mewn ardal benodol.

Er enghraifft, mae etholaeth Pontypridd yn cynnwys yr holl bleidleiswyr sy’n byw yno.

westminster abbey

Etholiad Cyffredinol

Etholiad pan fo pob etholaeth yn y wlad yn pleidleisio dros Aelodau Seneddol i’w cynrychioli yn Nhŷ’r Cyffredin yn San Steffan.

a manifesto with a person at a podium and sections of written promises.

Maniffesto

Adroddiad gwleidyddol arbennig yw maniffesto, sy’n dweud beth mae pob plaid wleidyddol yn addo ei wneud os byddan nhw’n ennill yr etholiad.

blank voting ballot paper

Papur pleidleisio

Ffurflen gydag enwau’r holl ymgeiswyr sydd eisiau cael eu hethol yn eich ardal chi

voting passport

Pasbort pleidleisio

Dyma ffurflen y gallwch ei chwblhau a’i dangos i staff yr orsaf bleidleisio.

Gall fod yn haws ac yn fwy preifat na gorfod egluro eich anghenion cefnogaeth o flaen pobl eraill.

person sy'n rhoi ei bleidlais mewn blwch pleidleisio

Pleidlais

Math arbennig o benderfyniad yw pleidlais, pan fyddwch yn dewis rhwng dau neu fwy o ymgeiswyr neu ddau neu fwy o bethau.

a person placing their vote in a post box

Pleidlais bost

Dyma ffordd o bleidleisio sy’n golygu llenwi’r papur pleidleisio gartref a’i anfon i mewn i’r cyngor cyn diwrnod yr etholiad.

person sy'n gofyn i berson arall bleidleisio eu dewis drostyn nhw

Pleidlais drwy ddirprwy

Ffordd o bleidleisio pan fo ffrind rydych chi’n eu trystio’n pleidleisio drosoch yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod etholiad.

voter authority certificate

Tystysgrif Awdurdodi

Pleidleisiwr Gallwch wneud cais am un o’r rhain os nad oes gennych chi brawf adnabod ffotograffig addas.

of a candidate standing behind a podium. The candidate is speaking into a microphone, addressing an audience.

Ymgeisydd

Person sydd eisiau cael ei ethol i gynrychioli cymuned leol.

cerdyn adnabod

Prawf adnabod (ID) ffotograffig

Rheol newydd ar gyfer Etholiadau Cyffredinol ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, sy’n golygu bod angen ichi brofi pwy ydych chi os byddwch yn pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio.

Logo ariennir gan Llywodraeth Cymru