Mynd i'r cynnwys

Pleidleisio a gwneud eich penderfyniadau eich hunan

Hawdd ei Ddeall gan Innovate Trust

2 wirfoddolwr yn dathlu

Mae angen i’n lleisiau ni oll gael eu clywed.

Mae hynny’n dda i’n lles ni.

grwp o ffrindiau

Mae cael ein lleisiau wedi’u clywed hefyd yn helpu ein cymunedau.

Mae syniadau gwahanol yn helpu i wneud pethau’n well i bawb.

woman at information desk in library

Dyma fwy o wybodaeth am bleidleisio a chymryd rhan yn y ffordd mae ein cymunedau’n gweithio.

Mae yna ddolenni i fideos a mwy o dudalennau Hawdd ei Deall.

map of United Kingdom and flags of Wales, Scotland, England, and Northern Ireland

Rydyn ni’n byw mewn democratiaeth.

Mae hynny’n golygu bod ein pleidlais yn helpu i benderfynu sut caiff ein gwlad ei rhedeg.

Mae llaw yn rhoi papur pleidleisio mewn blwch pleidleisio pinc. Mae'r blwch yn dweud "Pleidleisio"

Mae gennych chi hawl i bleidleisio os ydych chi’n ddinesydd Prydain neu’n ddinesydd rhai gwledydd eraill.

A person is not allowed to vote holding their head. Next to them is a red thumbs‑down symbol.

Weithiau, mae pobl sydd ag anabledd dysgu wedi methu â chael pleidleisio, ond dydy hynny ddim yn iawn.

someone thinking about their right to vote.

Mae gennych chi hawl i bleidleisio.

Penderfyniad yw pleidleisio.

Nid yw bod ag anabledd yn eich stopio rhag penderfynu pethau.

a person thinking about voting

Felly pam mae hi’n bwysig pleidleisio?

Meddyliwch amdanoch chi’ch hun.

Chi yw’r arbenigydd ar y ffordd rydych chi eisiau byw eich bywyd.

A person is sitting on a mat outside with their legs crossed. They have their arms crossed over their chest. There is a tree and flowers behind them.

Chi ddylai wneud y penderfyniadau am yr hyn sydd orau i’ch lles chi.

Dangosir person yn rhoi arwydd bawd i fyny. Wrth eu hymyl mae clawr llyfr sy'n dweud "Llywodraeth Cymru – Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014".

Yng Nghymru mae yna gyfraith sy’n dweud mai chi yw’r person gorau i wybod sut rydych eisiau byw a chael eich cefnogi.

A group of people are spending time together. Some people are sitting on a bench. One person is using a wheelchair. Three people are looking at a mobile phone together.

Mae pleidleisio yn ffordd arall o wneud penderfyniadau am eich syniadau a’ch credoau.

Mae hefyd yn ffordd bwysig o helpu i wneud eich cymunedau yn well.

Three people are together. One person is sitting in a wheelchair. Two people are standing close by.

Mae pleidleisio mewn etholiadau wedi helpu i wneud yr holl gyfreithiau sy’n rhoi hawliau cyfartal i ni.

UK Government logo with the words "Human Rights Act 1998" underneath

Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gyfraith sy’n rhoi’r hawl i ni gael tegwch, cydraddoldeb, urddas a pharch yn ein bywydau.

Logo Llywodraeth y DU gyda'r geiriau "Deddf Cydraddoldeb 2010" oddi tano

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei gwneud yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn y gwaith, mewn siopau, ac mewn llefydd eraill.

Logo Llywodraeth y DU gyda'r geiriau "Deddf yr Ifaswm Cyflog Cenedlaethol 1998" oddi tano

Mae’r gyfraith hon yn golygu bod rhaid rhoi isafswm cyflog sylfaenol i bob gweithiwr.

Mae wedi helpu pobl gydag anableddau gael yr arian maen nhw’n ei haeddu am y gwaith maen nhw’n ei wneud

A person is holding their head with both hands

Mae rhai pobl yn poeni am bleidleisio mewn etholiadau.

Gallai hyn fod am nifer o resymau.

Dywedir wrth rhai pobl na ddylen nhw bleidleisio oherwydd bod ganddyn nhw anabledd.

Dydy hyn ddim yn wir, mae pleidleisio i bawb.

Three people are together. One person is sitting in a wheelchair. Two people are standing close by.

Mae pleidleisio’n gweithio orau pan fo pawb yn y gymuned yn pleidleisio.

Mae tri pherson yn dal arwyddion. Mae'r arwyddion yn dweud "Gwell mynediad", "Byw'n annibynnol", a "Ein hawliau!". Mae hyn yn dangos pobl yn siarad ac yn cael eu clywed.

Mae hyn yn golygu gall lleisiau pawb gael eu clywed ynghylch pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Three people are sitting at a table talking together

Mae rhai pobl yn peidio â phleidleisio oherwydd eu bod yn meddwl nad ydyn nhw’n gwybod digon am wleidyddiaeth.

Does dim angen ichi wybod llawer am wleidyddiaeth i bleidleisio.

A person is sitting outside with their legs crossed. There are factories, the Earth, a thermometer, and trees shown above them.

Meddyliwch am yr hyn sy’n bwysig i chi a’ch bywyd.

Pictures show money, two people hugging, and a bus. These pictures show things that matter to people in a community.

Meddyliwch am yr hyn sy’n bwysig i’ch ffrindiau, teulu a’r ardal lle rydych chi’n byw.

Nawr gallwch ddarganfod pa bleidiau gwleidyddol allai eich helpu.

woman at information desk in library

Gallwch ddysgu mwy am beth mae pleidiau gwleidyddol yn credu ynddo drwy fynd i’r llyfrgell neu edrych ar-lein.

map of United Kingdom and flags of Wales, Scotland, England, and Northern Ireland

Gallwch ddysgu mwy am bleidiau gwleidyddol drwy edrych ar ein hadnodd Hawdd Ei Ddeall o’r enwY prif bleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig’.

Two people are sitting on a bench and talking. One person is using a wheelchair.

Siaradwch am y pethau hyn gyda’ch ffrindiau.

Gallwch ddysgu mwy gyda’ch gilydd.

Four people are sitting and talking around a table. A board says “Problems in your area” with a picture of a house. This shows people discussing local issues.

Gallwch gysylltu â’ch cynghorydd neu AS lleol i ofyn cwestiynau iddyn nhw.

Maen nhw yno i’ch helpu chi.

your vote matters logo

Cofwich:

  • Eich Pleidlais
  • Eich Llais
  • Eich Hawliau
Logo ariennir gan Llywodraeth Cymru