Mynd i'r cynnwys

Cofrestru i bleidleisio

Hawdd ei Ddeall gan Innovate Trust

eich pleidlais eich llais. Cofrestrwch i bleidleisio gov.uk/register-to-vote

Cyn y cewch chi bleidleisio rhaid i chi ymuno â'r Gofrestr Etholiadol.

Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd.

Mae person yn pwyntio at ffurflen sy'n dweud "Cofrestrwch i bleidleisio". Mae'r llun yn dangos bod angen i chi fod ar y rhestr bleidleisio.

Rhestr o bawb sy’n cael pleidleisio yw’r gofrestr.

Os na wnewch chi gofrestru, yna chewch chi ddim pleidleisio.

Mae dau berson yn eistedd wrth fwrdd yn edrych ar liniadur gyda'i gilydd. Maen nhw'n cofrestru i bleidleisio ar-lein.

Cysylltwch â’ch cyngor ar-lein, ar y ffôn neu mewn llyfrgell i ymuno â’r gofrestr.

A person is shown with their hand on their chin. Above them are two groups of people. One group has a green tick to show a group allowed to vote. The other group has a red cross to show a group not allowed to vote.

Maen nhw’n defnyddio’r gofrestr i gyfrif faint o bobl wnaeth bleidleisio a faint wnaeth ddim

Maen nhw’n ei ddefnyddio i weld a oes angen cymorth ychwanegol ar rai grwpiau o bobl i ddysgu am bleidleisio a pha mor bwysig yw gwneud.

Dangosir blwch pleidleisio gyda phapur pleidleisio yn mynd i mewn iddo. Mae cylch coch gyda llinell drwyddo yn golygu atal pleidleisiau rhag cael eu dwyn.

Mae’r gofrestr etholiadol hefyd yn helpu i atal pobl rhag ceisio dwyn pleidleisiau pobl eraill.

Unwaith y byddwch ar y gofrestr nid oes angen i chi wneud eto oni bai eich bod yn symud tŷ neu'n newid eich enw.

Logo ariennir gan Llywodraeth Cymru