Mae rhaid i bawb ddangos prawf adnabod, neu ‘ID’ ffotograffig pan fyddan nhw’n pleidleisio mewn canolfan bleidleisio.
Mae hyn er mwyn atal pobl o bleidleisio pan na ddylent.
Mae’r rheolau’n wahanol ym mhob gwlad yn y Deyrnas Unedig.
Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon mae’n rhaid i chi ddangos prawf adnabod ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio ym mhob etholiad.
Yn yr Alban, dim ond mewn Etholiadau Cyffredinol mae angen ichi ddangos prawf adnabod ffotograffig.
Yn yr Alban does dim angen prawf adnabod ffotograffig arnoch ar gyfer etholiadau lleol a Senedd yr Alban.
Yng Nghymru dim ond mewn Etholiadau Cyffredinol ac Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mae angen ichi ddangos prawf adnabod ffotograffig.
Yng Nghymru does dim angen ichi ddangos prawf adnabod ffotograffig ar gyfer etholiadau lleol a’r Senedd.
Cofiwch: dim ond os ydych chi’n pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad mae angen prawf adnabod ffotograffig arnoch.
Yng Nghymru, cewch ddefnyddio eich pàs bws Trafnidiaeth Cymru Anabl neu dros 60.
Os nad oes gennych chi’r prawf adnabod ffotograffig cywir, cewch wneud cais am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr i fynd gyda chi ar ddiwrnod yr etholiad.
Gallwch wirio My Vote My Voice a oes gennych chi’r math iawn o brawf adnabod.
Cewch hefyd wneud cais am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr.
Yn yr orsaf bleidleisio, gallwch ddangos eich cerdyn pleidleisio neu ddweud eich enw a chyfeiriad i’r staff yno.
Fe wnân nhw wirio eich prawf adnabod.
Bydd yr staff yn yr orsaf bleidleisio yn rhoi’r papur pleidleisio ichi ac yn egluro sut i’w lenwi.
Cofwich:
Dewch â’ch prawf adnabod ffotograffig.
| Cookie | Duration | Description |
|---|---|---|
| cookielawinfo-checkbox-analytics | 11 months | This cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Analytics". |
| cookielawinfo-checkbox-functional | 11 months | The cookie is set by GDPR cookie consent to record the user consent for the cookies in the category "Functional". |
| cookielawinfo-checkbox-necessary | 11 months | This cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookies is used to store the user consent for the cookies in the category "Necessary". |
| cookielawinfo-checkbox-others | 11 months | This cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Other. |
| cookielawinfo-checkbox-performance | 11 months | This cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Performance". |
| viewed_cookie_policy | 11 months | Mae’r ategolyn GDPR Cookie Consent yn gosod y cwci ac fe’i defnyddir i gofio p’un a roddodd y defnyddiwr ganiatâd i ddefnyddio cwcis ai peidio. Nid yw’n storio unrhyw ddata personol. |