Mynd i'r cynnwys

Pleidleisio hygyrch

Hawdd ei Ddeall gan Innovate Trust

Dangosir adeilad gorsaf bleidleisio. Mae ramp yn arwain at y fynedfa. Mae defnyddiwr cadair olwyn wrth y ramp.

Dylai pob gorsaf bleidleisio fod yn hygyrch.

Two people are facing each other. One person is holding a piece of paper and the other person is pointing at it.

Gallwch ofyn am gymorth gan y staff yno.

Dangosir llyfryn gyda'r geiriau "Print mawr" ar y blaen.

Gallwch ofyn am bapur pleidleisio print mawr.

Two people are standing with their arms around each other. One person is wearing an ID badge.

Gallwch ddod â ffrind, neu eich staff cefnogaeth eich hun gyda chi i’ch helpu.

Mae ffôn symudol yn dangos cerdyn pleidleisio ar y sgrin.

Gallwch hefyd ddefnyddio darllenydd llais ar eich ffôn.

Two people are standing together and looking at a piece of paper. One person is explaining the paper to the other

Mae rhai pobl yn defnyddio Pasbort Pleidleisio i egluro pa gymorth maen nhw ei angen wrth bleidleisio.

a manifesto with a person at a podium and sections of written promises.

Mae pob plaid wleidyddol yn cyhoeddi maniffesto ychydig wythnosau cyn etholiadau.

Adroddiad gwleidyddol arbennig ydi maniffesto.

A person is thinking. In a thought bubble there is a bus, a care worker helping someone, and a person using a laptop. This shows different things that may be in a manifesto.

Mae maniffesto’n egluro pa fath o bethau sy’n bwysig i’r blaid.

Gallai hynny fod yn Iechyd, Addysg, Trafnidiaeth, neu rywbeth arall.

A person is giving a thumbs‑up. In a thought bubble there is a bus, a care worker helping someone, and a person using a laptop. This shows promises about services and support.

Mae’n dweud beth maen nhw’n addo ei wneud os ydyn nhw’n cael eu hethol.

Gall maniffestos ein helpu ni i benderfynu pa blaid y byddwn yn pleidleisio drosti.

Mae person yn meddwl. Mewn swigen feddwl mae blwch pleidleisio pinc gyda phapur pleidleisio yn mynd i mewn iddo.

Bydd pleidiau gwleidyddol fel arfer yn cyhoeddi maniffestos Hawdd ei Deall i helpu etholwyr ddeall yr hyn maen nhw’n addo ei wneud os byddan nhw’n ennill.

Mae dwylo yn darllen llyfr gan ddefnyddio braille. Wrth ei ymyl mae taflen sy'n dweud "Print mawr". Dangosir person yn defnyddio arwyddion llaw. Mae hyn yn dangos gwybodaeth mewn gwahanol fformatau hygyrch.

Mae rhai pleidiau hefyd yn cynhyrchu maniffestos mewn Braille, print mawr ac Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â phob plaid i ofyn am gopïau.

Logo ariennir gan Llywodraeth Cymru