Tips gwneud cais
Rydym am eich helpu i baratoi ar gyfer gwaith. P'un a yw’r hyder gennych i gael gwaith am y tro cyntaf, symud ymlaen yn eich gyrfa neu ar ôl seibiant o’ch gyrfa.
Eich ffurflen gais yw eich cyfle i wneud argraff gref, felly gadewch inni fwrw iddi a darganfod ffyrdd o’i chwblhau'n llwyddiannus.
Tips ar gyfer llwyddiant
O ddarparu gwybodaeth gywir a manwl i arddangos eich sgiliau a'ch profiad yn effeithiol, bydd yr awgrymiadau hyn yn cynyddu eich siawns o lwyddo
Mae argraff gyntaf yn cyfrif. Dyma'ch cyfle i roi gwybod i ni pam mai chi yw'r person yr ydym yn chwilio amdano.
- Darllenwch y disgrifiad swydd a Manyleb y Person yn ofalus
- Rhowch gyflwyniad byr i pam rydych chi eisiau'r rôl
- Mae canlyniadau cadarnhaol yn wych i'w gweld. Fodd bynnag, os nad yw pethau wedi gweithio allan, dywedwch wrthym beth ddigwyddodd a sut y gwnaethoch ddatrys hyn
- Defnyddiwch benawdau ar gyfer pob adran. Mae hyn yn eich galluogi i gael strwythur clir ac yn sicrhau eich bod wedi cwmpasu'r holl feini prawf perthnasol.
Byddwn yn asesu...
Eich:
- profiad
- set sgiliau
- agwedd yn erbyn y meini prawf a osodwyd ym manyleb y person
- gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r rôl a'n sefydliad
Rydyn ni eisiau darganfod...
- Pam fod gennych ddiddordeb yn y rôl
- Eich dealltwriaeth o'r rôl
- Eich profiad a/neu sgiliau trosglwyddadwy perthnasol
Rydyn ni'n hoffi gweld...
- Manylion sylfaenol amdanoch chi'ch hun ac esboniad manylach o'ch sgiliau
- Eich profiad a'ch cymwysterau. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio enghreifftiau lle bo'n briodol i ddangos tystiolaeth o'ch gallu i fodloni ein gofynion
- Soniwch am eich profiadau personol neu broffesiynol. Rhowch enghreifftiau i ni o pryd a sut rydych chi wedi dangos y meini prawf allweddol
- Peidiwch â chynhyrfu os nad ydych yn bodloni'r holl feini prawf. Dychmygwch beth fyddech chi'n ei wneud mewn sefyllfa a rhowch hyn yn eich ffurflen gais
Gwirio ac ailwirio!
- Darllenwch eich cais drosodd i wirio am wallau sillafu a gramadegol
- Gofynnwch i rywun arall brawf ddarllen eich cais
- Llungopïwch neu argraffwch eich ffurflen orffenedig fel bod gennych gofnod o'r hyn rydych wedi'i ysgrifennu. Efallai y bydd angen i chi gyfeirio'n ôl at yr hyn yr ydych wedi'i ysgrifennu yn ystod y cyfweliad
- Cadwch eich atebion yn gryno ac yn berthnasol. Byddwch yn gwneud argraff gryfach.
Ceisiwch osgoi
- Ysgrifennu “Gweler CV”. Rydym wedi rhoi ffurflen gais i chi am reswm.
- Ni ddylai CV gymryd lle unrhyw ran o'ch ffurflen gais. Fodd bynnag, cewch gyflwyno eich CV fel dogfen ychwanegol.
- Peidiwch â defnyddio dim ond ystrydebau neu eiriau ffasiynol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymhelaethu ar eich disgrifiadau a'ch pwyntiau!
Barod i dechrau arni?
Cofiwch, eich cais yw eich argraff gyntaf, felly gwnewch iddo gyfrif!
Defnyddiwch ein tips gwneud cais i arddangos eich sgiliau a'ch profiad.
Eisiau gwybod mwy?
Dewch i weld beth all gyrfa yn Innovate Trust ei gynnig i chi.








