Mae Innovate Trust wrth eu bodd o fod wedi derbyn cyllid gan Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar gyfer y prosiect Heibio’r Rhwystrau.
Mae'r prosiect yn bartneriaeth gyda Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru (SVC) a bydd yn dwyn ynghyd brofiad helaeth Innovate Trust o gefnogi pobl ag anableddau dysgu yn eu cartref a'r gymuned, ochr yn ochr â 50 mlynedd o brofiad SVC o gyflwyno prosiectau gwirfoddoli ledled Cymru i frwydro yn erbyn unigrwydd ac arwahanrwydd.
Bydd y prosiect Heibio’r Rhwystrau yn archwilio’r rhwystrau i wirfoddoli o fewn lleoliadau byw â chymorth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.
Mae Innovate Trust ac SVC wedi bod yn cynnal cynllun cyfeillio gwirfoddol yng nghartrefi pobl ag anableddau dysgu ers 2018.
Yng ngham cyntaf y prosiect, byddwn yn cynnal ymchwiliad manwl i'r cynllun, gan gasglu data gan bobl ag anableddau dysgu, gwirfoddolwyr cymunedol a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gael dealltwriaeth lawn o’r diwylliant sydd ynghlwm â gwirfoddoli yn ein sefydliad a'r sector ehangach.
Within phase two of the project, we will be utilising the data we collect to coproduce a framework for embedding volunteering within learning disability health and social care services and exploring Volunteering to Career pathways.
Rydym yn gwybod y gall archwilio llwybrau o Wirfoddoli i Yrfa gael llawer o ganlyniadau cadarnhaol i wirfoddolwyr unigol, sefydliadau a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau.
Bydd Heibio’r Rhwystrau yn ehangu'r gwaith sydd wedi digwydd hyd yn hyn ac yn ychwanegu dirnadaethau gwerthfawr sy'n benodol i'r sector anableddau dysgu.
We are excited to be launching a project with the potential to deliver significant benefits to the third sector in Wales, at a time when many organisations are under immense pressure.
Drwy ymrwymo i ddeall y rhwystrau i wirfoddoli, addasu ein ffyrdd o weithio, a gwreiddio gwirfoddoli yn llawn yn ein dull gweithredu, ein nod yw cryfhau nid yn unig ein sefydliad ein hunain ond hefyd cefnogi mwy o wydnwch ar draws y sector yn y blynyddoedd i ddod.









